2003 Rhif 3041 (Cy.286)
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (c) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel y mae'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor3 sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Ynghylch y Rheoliadau hyn —
eu henw yw Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003, deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag y sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Cyfarwyddeb 95/2/EC” (“Directive 95/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 95/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion4;
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”), yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw unrhyw fwyd a bennir yng Ngholofn 2 o Atodlen 1;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw am y canlynol —
- a
at ddibenion ailwerthu;
- b
at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
- c
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
- a
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng Ngholofn 1 o Atodlen 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sydd yn Barti Contractio i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd5 a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol6 a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 19967); ac
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach.
2
Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, caiff ei drin fel “cynnyrch dynodedig” ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn dim ond —
a
os cafodd ei baratoi o unrhyw ddeunydd ffrwythau a ddisgrifir yn Atodlen 2 a hynny naill ai gyda neu heb unrhyw ddeunydd crai arall a restrir yn yr Atodlen honno;
b
os yw'n cynnwys unrhyw gynhwysyn ychwanegol, os yw'r cynhwysyn hwnnw wedi'i awdurdodi ar gyfer y bwyd dan sylw gan Atodlen 3;
c
ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “sudd ffrwythau”, “sudd ffrwythau dwysedig”, “sudd ffrwythau o ddwysfwyd”, neu “sudd ffrwythau dadhydradedig neu sudd powdr”, os nad yw wedi'i baratoi drwy ychwanegu ato—
i
siwgrau a sudd lemon ill dau (boed ddwysedig neu beidio), neu
ii
siwgrau a chyfryngau asideiddio ill dau fel a ganiateir gan Gyfarwyddeb 95/2/EC,
ch
os y'i paratowyd drwy ddefnyddio unrhyw driniaeth neu sylwedd ychwanegol, os yw'r driniaeth neu'r sylwedd wedi'u pennu yn Atodlen 4; a
d
ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “neithdar ffrwythau”, os yw'n cynnwys yr isafswm o sudd neu biwrî a bennir yn Atodlen 5 ynghyd â'r Nodyn i'r Atodlen honno.
Ystod y Rheoliadau3
Yn ddarostyngedig i reoliad 5(e), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynhyrchion dynodedig a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Disgrifiadau neilltuedig4
Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label (boed y label wedi'i gysylltu i'r deunydd lapio neu i'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt) sy'n ddisgrifiad neilltuedig neu'n ddisgrifiad sy'n deillio ohono neu sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad o'r fath, neu sy'n air neu'n ddisgrifiad sylweddol o debyg iddo neu sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw air neu ddisgrifiad o'r fath oni bai—
a
bod bwyd o'r fath yn gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn berthnasol iddo;
b
bod disgrifiad, disgrifiad sy'n deillio ohono neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun o'r fath er mwyn dangos yn bendant neu drwy oblygiad clir mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu
c
bod disgrifiad, disgrifiad sy'n deillio ohono neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun o'r fath er mwyn dangos yn bendant neu drwy oblygiad clir nad yw'r bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig nac yn cynnwys cynnyrch dynodedig.
Labelu a disgrifio cynnyrch dynodedig5
Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai —
a
ei fod, yn ddarostyngedig i baragraff (ch)(i), wedi'i farcio neu wedi'i labelu â disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch;
b
yn achos sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig, sudd ffrwythau o ddwysfwyd neu o sudd ffrwythau dadhydradedig neu bowdr, a felyswyd drwy ychwanegu siwgrau, yr ychwanegir y gair “sweetened” neu'r geiriau “with added sugar” at y disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw, a bod disgrifiad o'r fath neu enw arall yn cael ei ddilyn gan ddatganiad (wedi'i gyfrifo fel mater sych, a'i fynegi mewn gramiau fesul litr) o fwyafswm y siwgr a ychwanegwyd;
c
yn achos sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig neu sudd ffrwythau o ddwysfwyd yr ychwanegwyd mwydion neu gelloedd ar wahân i, neu'n ychwanegol at, y mwydion neu'r celloedd a echdynnwyd yn wreiddiol o'r cynnyrch hwnnw, fod ei labelu'n cynnwys datganiad o ychwanegiad o'r fath;
ch
yn achos —
i
cymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r un disgrifiad neilltuedig “fruit juice” (neu ddisgrifiad arall o'r fath y mae'n ofynnol ei gael yn lle'r disgrifiad “fruit juice” yn unol â'r amodau sy'n rhagflaenu Colofn 1 (disgrifiadau neilltuedig) yn Atodlen 1), neu
ii
neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig,
bod ei labelu yn dwyn y geiriau “partially made from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially made from concentrates”, bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;
d
yn achos neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig, y mae ei labelu yn dwyn y geiriau “made with concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “made with concentrates”, a bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;
dd
yn achos neithdar ffrwythau, mae ei labelu yn dwyn datganiad o'r isafswm o sudd ffrwythau, neu biwrî ffrwythau, neu gymysgedd o sudd ffrwythau a phiwrî ffrwythau, ei fod yn cynnwys, gyda'r geiriau “fruit content :[x] % minimum” (yn lle “[x]” mewnosoder y ffigur priodol) yn ymddangos yn yr un cylch golwg â'r disgrifiad neilltuedig; ac
e
yn achos sudd ffrwythau dwysedig na fwriadwyd ar gyfer ei gyflenwi i'r defnyddiwr olaf, ei fod yn dwyn datganiad ar y pecyn sydd amdano, ar label sydd wedi'i gysylltu â'r pecyn sydd amdano, neu mewn dogfen sydd gydag ef, o bresenoldeb y canlynol a'r swm ohonynt sydd ynddo —
i
siwgrau ychwanegol,
ii
sudd lemon ychwanegol, neu
iii
cyfryngau asideiddio fel a ganiateir gan Gyfarwyddeb 95/2/EC.
Dull marcio neu labelu6
Bydd rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol eu cynnwys wrth farcio neu labelu cynnyrch dynodedig fel pe baent yn fanylion y mae Rheoliadau 1996 yn ei gwneud yn ofynnol eu cynnwys wrth farcio neu labelu bwyd.
Cosbi a gorfodi7
1
Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
2
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion8
Mewn unrhyw achosion o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi —
a
bod y bwyd yr honnir bod tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad (heblaw Gwladwriaeth AEE) y mae ganddi ddeddfwriaeth gyfatebol i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
b
yn achos allforio i Wladwriaeth AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy'n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion penodol tebyg a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl8.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990.9
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
a
adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
b
adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
c
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
ch
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
d
adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);
dd
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
e
adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
f
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);
ff
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);
g
adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f);
ng
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
h
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygio a dirymu10
1
a
yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 19959 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), yn eitem 17 o Atodlen 2, yn lle'r geiriau “Directive 93/77/EEC” rhodder y geiriau “Council Directive 2001/112/EC”;
b
yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199510 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), yn Atodlen 7 —
i
yn lle'r geiriau “Fruit juices and nectars as defined in Directive 93/77/EEC” rhodder y geiriau “Fruit juices and nectars as defined in Council Directive 2001/112/EC”;
ii
yn lle'r geiriau “Pineapple juice as defined in Directive 93/77/EEC” rhodder y geirau “Pineapple juice as defined in Council Directive 2001/112/EC”;
iii
yn lle'r geiriau “Nectars as defined in Directive 93/77/EEC” rhodder y geiriau “Nectars as defined in Council Directive 2001/112/EC”;
iv
yn lle'r geiriau “Grape juice as defined in Directive 93/77/EEC” rhodder y geiriau “Grape juice as defined in Council Directive 2001/112/EC”;
v
yn lle'r geiriau “Fruit juices as defined in Directive 93/77/EEC” rhodder y geiriau “Fruit juices as defined in Council Directive 2001/112/EC”.
2
Yn narpariaethau'r Rheoliadau a bennir ym mharagraff (3) (ym mhob achos i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) dileer y cofnodion sy'n ymwneud â Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Suddoedd Neithdar 197711.
3
Dyma'r darpariaethau —
a
Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 198212;.
b
Rhan I o'r Atodlen i Reoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 198513;
c
Rhan I o Atodlen 1, Atodlen 2, Rhan I o Atodlen 3, Atodlen 6 ac Atodlen 12 i Orchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 199014);
ch
Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 199115;
d
Rhan I o'r Atodlen i Reoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymu) 199216); ac
dd
Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199517.
4
Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) —
a
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977;
b
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Diwygio) 198218;
c
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru, Lloegr a'r Alban) (Diwygio) 199119);
ch
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru, Lloegr a'r Alban) (Diwygio) 199520.
Darpariaethau trosiannol11
Mewn unrhyw achosion mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 7 bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi —
a
bod y bwyd dan sylw wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 12 Gorffennaf 2004; a
b
na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977 fel yr oeddynt yn union cyn dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199821.
ATODLEN 1DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG AR GYFER CYNHYRCHION DYNODEDIG
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
Yn y disgrifiadau a restrir yn eitemau 1 i 5 isod —
| |
| Y cynnyrch eplesiadwy ond na chafodd ei eplesu a gafwyd o ffrwyth sy'n iach ac aeddfed, yn ffres neu wedi'i gadw drwy ei oeri, o un math neu fwy nag un math a gymysgwyd ynghyd, y mae ganddo hynodrwydd lliw, blas a chyflas nodweddiadol sudd y ffrwyth y daw ohono;
|
| Y cynnyrch a geir o sudd ffrwythau o un math neu fwy drwy dynnu'n ffisegol gyfran benodol o'i gynnwys dŵ r. Os bwriedir y cynnyrch ar gyfer ei yfed neu ei fwyta'n uniongyrchol rhaid tynnu o leiaf 50% o gyfran y cynnwys dŵ r. |
| Y cynnyrch a geir wrth roi yn ôl, mewn sudd ffrwythau dwysedig, ddŵ r a echdynnwyd o'r sudd hwnnw yn ystod y broses ddwyso, a thrwy adfer y cyflasau ac, os yw hynny'n briodol, y mwydion a'r celloedd a gollwyd o'r sudd ond a adferwyd yn ystod y broses o gynhyrchu'r sudd ffrwythau o dan sylw neu'r sudd ffrwythau o'r un math;
|
| Y cynnyrch a geir o sudd ffrwythau o un math neu fwy drwy dynnu'n ffisegol ei holl gynnwys dŵ r. |
| Cynnyrch eplesiadwy ond na chafodd ei eplesu a geir wrth ychwanegu dŵ r (mewn swm nad yw'n fwy na 20% o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig) ac unrhyw un neu fwy o'r canlynol —
Os un neu fwy o fricyll neu o ffrwythau a restrir yn Rhan II a III o Atodlen 4 yw'r math o ffrwyth a ddefnyddir, gellir gweithgynhyrchu'r cynnyrch heb ychwanegu unrhyw siwgrau, melysyddion neu fêl. |
ATODLEN 2DEUNYDDIAU CRAI A GANIATEIR WRTH BARATOI CYNHYRCHION DYNODEDIG
1
Ffrwythau, o unrhyw fath heblaw tomatos.
2
Piwrî ffrwythau, sef y cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy hidlo'r rhan fwytadwy o'r ffrwyth cyfan neu'r ffrwyth wedi'i bilio heb dynnu'r sudd ohono.
3
Piwrî ffrwythau dwysedig, sef y cynnyrch a geir o'r pwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o'i gynnwys dŵ r.
4
Siwgrau, sef —
a
wrth baratoi neithdar ffrwythau —
siwgrau fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriadwyd i bobl eu bwyta 23;
surop ffrwctos;
siwgrau sy'n deillio o ffrwythau;
b
wrth baratoi sudd ffrwythau o ddwysfwyd —
siwgrau fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2001/111/EC a enwyd;
surop ffrwctos;
c
wrth baratoi sudd ffrwythau —
unrhyw siwgr a ganiateir ym mharagraff (b) uchod o ran sudd ffrwythau o ddwysfwyd ar yr amod ei fod yn cynnwys llai na 2% o ddŵ r.
5
Mêl, sef y cynnyrch a ddiffinnir fel “honey” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC mewn perthynas â mêl24.
6
Mwydion neu gelloedd, sef —
mewn perthynas â ffrwythau sitrws, y codennau sudd a geir o'r endocarp;
mewn perthynas ag unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o rannau bwytadwy o'r ffrwyth heb dynnu'r sudd ohonynt.
ATODLEN 3CYNHWYSION YCHWANEGOL A GANIATEIR MEWN CYNHYRCHION DYNODEDIG PENODOL
1
Ceir ychwanegu fitaminau a mwynau at unrhyw gynnyrch dynodedig.
2
Mewn sudd grawnwin ceir adfer halwynau o asidau tartarig.
3
At sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig, sudd ffrwythau o ddwysfwyd, a sudd ffrwythau dadhydradedig neu bowdr, heblaw unrhyw sudd ffrwythau a baratowyd o rawnwin neu ellyg, ceir ychwanegu siwgrau —
a
at ddibenion rheoleiddio blas asidig, mewn swm (a fynegir fel mater sych) nad yw'n fwy na 15g y litr o sudd;
b
at ddibenion melysu, mewn swm (a fynegir fel mater sych) nad yw'n fwy na 150g y litr o sudd;
nid yw cyfanswm y siwgrau a ychwanegir felly at y naill ddiben neu'r llall i fod yn fwy na 150g y litr o sudd.
4
Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, at ddibenion rheoleiddio blas asidig, ceir ychwanegu —
a
sudd lemon, neu
b
sudd lemon dwysedig, neu
c
sudd lemon a sudd lemon dwysedig ill dau,
(a fynegir fel asid sitrig anhydrus), nid yw cyfanswm y sudd hwnnw a ychwanegir i fod yn fwy na 3g y litr o'r cynnyrch.
5
Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu deuocsid carbon.
6
Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl25.
ATODLEN 4TRINIAETHAU A GANIATEIR A SYLWEDDAU YCHWANEGOL
Triniaethau
1
Prosesau echdynnu mecanyddol.
2
Y prosesau ffisegol arferol (sef y rheiny a gynhwysir yn y disgrifiad hwnnw yn Atodiad I, Rhan II, pwynt 2, i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy'n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion eraill tebyg a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl) a chan gynnwys, wrth gynhyrchu sudd ffrwythau dwysedig heblaw'r sudd a gynhyrchir o rawnwin, echdynnu dŵ r mewn-lein, neu dryledu rhannau bwytadwy o'r ffrwyth.
3
Wrth gynhyrchu sudd grawnwin pan sylffadwyd y grawnwin â deuocsid sylffwr, dadsylffadu drwy ddull ffisegol, ar yr amod nad yw cyfanswm y sudd grawnwin gorffenedig yn fwy na 10 mg y litr o sudd.
Sylweddau ychwanegol
4
Ensymau pectolytig.
5
Ensymau proteolytig.
6
Ensymau amylolytig.
7
Gelatin bwytadwy.
8
Taninau.
9
Bentonit.
10
Erogel silicon.
11
Siarcol.
12
Cyfryngau cynorthwyo hidlo a chyfryngau gwaddodi sy'n gemegol anadweithiol, gan gynnwys perlit, diatomit wedi'i olchi, seliwlos, polyamid annhoddadwy, polyfynilpolypyrolidon, a pholystyren, sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Gymuned ar ddeunyddiau a gwrthrychau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd26.
13
Cymhorthion arsugno cemegol anadweithiol sydd yn cydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Gymuned a enwyd ac y defnyddir hwy i leihau cynnwys limonoid a naringin mewn sudd sitrws heb effeithio'n arwyddocaol ar gynnwys glwcosidau limonoisd, asid, siwgrau (gan gynnwys oligosacaridau) neu fwynau mewn sudd o'r fath.
ATODLEN 5ISAFSWM CYNNWYS SUDD A PHIWRÎ MEWN NEITHDARAU FFRWYTHAU
Isafswm cynnwys sudd, piwrî neu sudd a phiwrî (% yn ôl cyfaint y cynnyrch gorffenedig) | |
---|---|
I. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau â sudd asidig annymunol yn eu cyflwr naturiol | |
Ffrwyth y dioddefaint | 25 |
Quito naranjillos | 25 |
Cyrains duon | 25 |
Cyrains gwynion | 25 |
Cyrains cochion | 25 |
Eirin Mair | 30 |
Aeron myrafnwydd | 25 |
Eirin tagu | 30 |
Eirin | 30 |
Quetsches | 30 |
Criafol | 30 |
Egroes | 40 |
Ceirios sur | 35 |
Ceirios eraill | 40 |
Llus | 40 |
Eirin ysgaw | 50 |
Mafon | 40 |
Bricyll | 40 |
Mefus | 40 |
Mwyar Mair/mwyar duon | 40 |
Llugaeron | 30 |
Afalau cwins | 50 |
Lemonau a leimiau | 25 |
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | 25 |
II. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n isel mewn asid, yn fwydiog neu'n annymunol iawn yn eu cyflwr naturiol | |
Mangos | 25 |
Bananas | 25 |
Gwafas | 25 |
Papaias | 25 |
Lytshis | 25 |
Azeroles (Merys Neapolitanaidd) | 25 |
Micasau sur | 25 |
Afalau cwstard | 25 |
Afalau siwgwr | 25 |
Pomgranadau | 25 |
Ffrwythau cashiw | 25 |
Eirin Sbaen | 25 |
Wmbw | 25 |
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | |
III. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n dymunol yn eu cyflwr naturiol | |
Afalau | 50 |
Gellyg | 50 |
Eirin gwlanog | 50 |
Ffrwthau sitrws heblaw lemonau a leimiau | 50 |
Pinafalau | 50 |
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | 50 |
Nodiadau:
|
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)