(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru ac sy'n dod i rym ar 28 Tachwedd 2003, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy'n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion eraill tebyg a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.58). Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau —
(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer cynhyrchion suddoedd ffrwythau penodedig (rheoliad 2(2) ac Atodlen 1);
(b)yn rhagodi'r deunyddiau crai, prosesau triniaeth a chynhwysion ychwanegol sydd i'w defnyddio wrth baratoi cynhyrchion penodedig (rheoliad 2(2) ac Atodlenni 2, 3 a 4);
(c)yn rhagnodi'r isafswm o sudd ffrwythau ar gyfer cynhyrchion sy'n dwyn y disgrifiad neilltuedig “neithdar ffrwythau” (rheoliad 2(2) ac Atodlen 5);
(ch)yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt (rheoliad 3);
(d)yn cyfyngu ar y disgrifiadau neilltuedig fel na ellir eu defnyddio ond ar gyfer y cynhyrchion dynodedig y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4);
(dd)yn rhagnodi'r gofynion labelu i'r cynhyrchion hynny (rheoliad 5);
(e)yn darparu ar gyfer dulliau nodi a labelu cynhyrchion dynodedig (rheoliadau 5 a 6);
(f)yn pennu cosb am fynd yn groes i'r rheoliadau a phennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 7);
(ff)yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reoli swyddogol bwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.1989, t.23) a Chytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn pennu amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion (rheoliad 8);
(g)yn cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);
(ng)yn dirymu'r Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliad 10 ac 11).
Mae Arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.