Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003

Rheoliad 2(2)(e)

ATODLEN 5ISAFSWM CYNNWYS SUDD A PHIWRÎ MEWN NEITHDARAU FFRWYTHAU

Isafswm cynnwys sudd, piwrî neu sudd a phiwrî (% yn ôl cyfaint y cynnyrch gorffenedig)

Nodiadau:

1.

Yn achos cynnyrch a gafodd ei baratoi o gymysgedd o fathau o ffrwythau, caiff yr Atodlen hon ei darllen fel pe bai'r isafsymiau a bennir ar gyfer yr amryw fathau o ffrwyth y sonnir amdanynt neu y cyfeirir atynt ynddi yn cael eu lleihau yn gymesur â'r symiau cymharol o'r mathau o ffrwythau a ddefyddir.

I. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau â sudd asidig annymunol yn eu cyflwr naturiol
Ffrwyth y dioddefaint25
Quito naranjillos25
Cyrains duon25
Cyrains gwynion25
Cyrains cochion25
Eirin Mair30
Aeron myrafnwydd25
Eirin tagu30
Eirin30
Quetsches30
Criafol30
Egroes40
Ceirios sur35
Ceirios eraill40
Llus40
Eirin ysgaw50
Mafon40
Bricyll40
Mefus40
Mwyar Mair/mwyar duon40
Llugaeron30
Afalau cwins50
Lemonau a leimiau25
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn25
II. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n isel mewn asid, yn fwydiog neu'n annymunol iawn yn eu cyflwr naturiol
Mangos25
Bananas25
Gwafas25
Papaias25
Lytshis25
Azeroles (Merys Neapolitanaidd)25
Micasau sur25
Afalau cwstard25
Afalau siwgwr25
Pomgranadau25
Ffrwythau cashiw25
Eirin Sbaen25
Wmbw25
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn
III. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n dymunol yn eu cyflwr naturiol
Afalau50
Gellyg50
Eirin gwlanog50
Ffrwthau sitrws heblaw lemonau a leimiau50
Pinafalau50
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn50