2003 Rhif 3046 (Cy.289)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 5(4) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru2.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.

2

Dim ond i anheddau a leolir yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.

3

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921.

4

Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac yn y Ddeddf yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

Symiau gwahanol i anheddau mewn bandiau prisio gwahanol2

1

Caiff adran 5 o'r Ddeddf ei diwygio yn unol â'r Erthygl hon.

2

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder —

1A

For the purposes of the application of subsection (1) to dwellings situated in Wales, for the purposes of financial years beginning on or after 1st April 2005, for the proportion specified in that subsection there is substituted the following proportion:

  • 6: 7: 8: 9: 11: 13: 15: 18: 21

3

O ran blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005 rhodder y Tabl isod yn lle'r un a geir yn is-adran (3) —

Range of values

Valuation band

Values not exceeding £44,000

A

Values exceeding £44,000 but not exceeding £65,000

B

Values exceeding £65,000 but not exceeding £91,000

C

Values exceeding £91,000 but not exceeding £123,000

D

Values exceeding £123,000 but not exceeding £162,000

E

Values exceeding £162,000 but not exceeding £223,000

F

Values exceeding £223,000 but not exceeding £324,000

G

Values exceeding £324,000 but not exceeding £424,000

H

Values exceeding £424,000

I

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Yn adran 5(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“y Ddeddf”) pennir ym mha gyfran y bydd symiau o dreth gyngor, sy'n berthnasol i anheddau sydd o fewn ardal yr un awdurdod bilio (neu yn yr un rhan o ardal o'r fath) ac sydd wedi eu rhestru mewn bandiau prisio gwahanol, yn daladwy.

Yn adran 5(3) o'r Ddeddf nodir y bandiau prisio ar gyfer anheddau yng Nghymru.

Mae adran 5(4) o'r Ddeddf yn awdurdodi rhoi, drwy orchymyn, ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, neu ar ôl dyddiad o'r fath, gyfran arall yn lle'r gyfran honno sydd, am y tro, yn effeithiol at ddibenion is-adran (1), a bandiau prisio eraill yn lle'r bandiau prisio sydd, am y tro, yn effeithiol at ddibenion is-adran (3).

Mae adran 5(4A) yn awdurdodi newid nifer y bandiau prisio a geir yn adran 5(3).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi cyfran arall a bandiau prisio eraill yn lle'r rhai a geir yn is-adrannau (1) a (3) yn y drefn honno o adran 5 o'r Ddeddf.