- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Maent yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/ (OJ Rhif L19, 17.1.2002, t.19). Ymwneud â chynhyrchion llaeth penodol a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sydd naill ai'n rhannol neu'n llwyr wedi'u sychu (wedi'u dadhydradu) a'u cadw (eu preserfio) y mae'r Gyfarwyddeb honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau yn —
(a)rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);
(b)darparu i'r Rheoliadau fod yn gymwys i gynhyrchion llaeth a llaeth sych a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3);
(c)cyfyngu ar y defnydd o ddisgrifiadau neilltuedig i'r cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych y maent yn ymwneud â hwy (rheoliad 4);
(ch)rhagnodi gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych dynodedig (rheoliad 5);
(d)rhagnodi dull y marcio neu labelu a chymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6);
(dd)pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol bwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23), amddiffyniad sy'n ymwneud ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);
(e)cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);
(f)dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Effaith y dirymiad a wneir gan reoliad 10(1)(a), ac absenoldeb ailddeddfiad o ddarpariaeth debyg, yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i'r cynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n egluro sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd a grybwyllir uchod yn cael eu trawsosod yn Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: