Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997 (“Rheoliadau 1997”) drwy ragnodi dwy ffurflen newydd i'w defnyddio gan landlordiaid tir ac adeiladau yng Nghymru wrth iddynt gynnig rhent newydd o dan adran 13(2) o Ddeddf Tai 1988 (“adran 13(2)”).
Caiff ffurflen Rhif 4 yn yr Atodlen i Reoliadau 1997 (“Form No.4”), sef y ffurflen a ragnodwyd ar hyn o bryd i'w defnyddio gan landlordiaid tir ac adeiladau yng Nghymru wrth iddynt gynnig rhent newydd am denantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr o dan adran 13(2), ei dirymu ar 18 Ebrill 2003.
Mae'r ffurflen newydd gyntaf, a rifwyd 4D, i'w defnyddio gan landlordiaid sy'n cynnig, o dan adran 13(2), rhent newydd am denantiaeth gyfnodol sicr a gellir ei defnyddio ar neu ar ôl 18 Chwefror 2003. Rhwng y dyddiad hwnnw ac 18 Ebrill 2003, gellir defnyddio naill ai Ffurflen Rhif 4 neu Ffurflen Rhif 4D mewn perthynas â thenantiaeth gyfnodol sicr.
Mae'r ail ffurflen newydd, a rifwyd 4E, i'w defnyddio gan landlordiaid neu drwyddedwyr sy'n cynnig, o dan adran 13(2), rent newydd neu ffi drwydded am denantiaeth amaethyddol sicr a gellir ei defnyddio ar neu ar ôl 18 Chwefror 2003. Rhwng y dyddiad hwnnw ac 18 Ebrill 2003, gellir defnyddio naill ai Ffurflen Rhif 4 neu Ffurflen Rhif 4E mewn perthynas â thenantiaeth amaethyddol sicr.