xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Mae'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn wedi'u pennu fel cyrff sy'n gyrff sy'n cael eu cydnabod, yn nhyb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2002(1) yn cael ei ddiddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Rhagfyr 2003