Enwi a chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763; ac
ystyr “Sir Ddinbych” (“Denbighshire”) yw Sir Ddinbych.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3
1
Mae'r rhannau hynny o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau croes du ar fapiau ffiniau A a B yn cael eu gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned y Rhyl.
2
Mae'r rhan honno o gymuned Dyserth sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.
3
Mae'r rhan o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.
Newidiadau i Wardiau4
1
Estynir ward y De o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau A.
2
Estynir ward y De Ddwyrain o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B
3
Estynir ward y De Orllewin o gymuned Prestatyn i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du a'r ardal a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap B.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru