Mae'r Offeryn Statudol hwn yn disodli'r un blaenorol a gyhoeddwyd o dan y rhif anghywir; fe'i dosberthir yn rhad ac am ddim i'r rhai y gwyddys iddynt dderbyn y cyntaf.
2003 Rhif 3134 (Cy.300)
Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Gan bod Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ebrill 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ar y ffiniau rhwng cymunedau Dyserth, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl yn Sir Ddinbych ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdanynt;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2 yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—