Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003

Mae'r Offeryn Statudol hwn yn disodli'r un blaenorol a gyhoeddwyd o dan y rhif anghywir; fe'i dosberthir yn rhad ac am ddim i'r rhai y gwyddys iddynt dderbyn y cyntaf.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3134 (Cy.300)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003

Wedi'i wneud

28 Tachwedd 2003

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Gan bod Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ebrill 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ar y ffiniau rhwng cymunedau Dyserth, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl yn Sir Ddinbych ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdanynt;

a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;

a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3); ac

ystyr “Sir Ddinbych” (“Denbighshire”) yw Sir Ddinbych.

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau

3.—(1Mae'r rhannau hynny o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau croes du ar fapiau ffiniau A a B yn cael eu gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned y Rhyl.

(2Mae'r rhan honno o gymuned Dyserth sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.

(3Mae'r rhan o gymuned Rhuddlan sydd yn Sir Ddinbych ac a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Prestatyn.

Newidiadau i Wardiau

4.—(1Estynir ward y De o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau A.

(2Estynir ward y De Ddwyrain o gymuned y Rhyl i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B

(3Estynir ward y De Orllewin o gymuned Prestatyn i gynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau croes du a'r ardal a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap B.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sue Essex

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

28 Tachwedd 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:

(i)y bydd ardaloedd yng nghymuned Rhuddlan (a ddangosir â llinellau croes du yn y mapiau ffiniau A a B y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned y Rhyl; a

(ii)y bydd ardal yng nghymuned Dyserth yng nghyffiniau'r eiddo a elwir “Ffordd Pantycelyn”, “Pydew Farm”, “Pydew Bungalow”, “Little Pydew Farm”, ?OQ?Plas Newydd Farm, “Bungalow”, a “52 Ffordd Ffynnon” (a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn; a

(iii)y bydd ardal yng nghymuned Rhuddlan yng nghyffiniau'r eiddo a elwir “Four Winds Farm” (a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) hefyd yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn.

Mae printiau o'r map ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych yn Swyddfeydd y Cyngor, Rhuthun ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu bod wardiau De a De Ddwyrain cymuned y Rhyl a ward De Orllewin Cymuned Prestatyn, y cyfeirir atynt yng Ngorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 1998 (“Gorchymyn 1998”), yn cael eu hestyn fel bod eu ffiniau yn cyd-redeg â ffiniau'r cymunedau fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.

Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn 1998 at gymunedau Rhuddlan a Dyserth fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan amryw offerynnau statudol. Nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn.