Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003

Dirymu

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Rheoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 1994(1) (i'r graddau na ddirymwyd hwy eisoes), Rheoliadau Addysg (Gwaharddiadau o'r Ysgol) (Cyfnodau a Ragnodwyd) 1999(2) a Rheoliadau Addysg (Gwaharddiadau o'r Ysgol) (Cyfnodau a Ragnodwyd) (Diwygio) (Cymru) 2000(3) drwy hyn yn cael eu dirymu.

(2Mae'r rheoliadau a ddirymir gan baragraff (1) i barhau'n effeithiol mewn perthynas ag unrhyw waharddiad y mae adrannau 64 i 68 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 18 iddi(4)) yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) (Cymru) 2003(5) (disgyblion sydd wedi'u gwahardd cyn 9 Ionawr 2004).