2003 Rhif 3229 (Cy.309)
Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion diogelwch bwyd3, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003 ac daw i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
2
Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn Neddf Diogelwch Bwyd 19904);
mae i'r ymadrodd “colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl”,“sefydliad sy'n cynhyrchu colagen”, “canolfan gasglu”, “deunydd crai”, a “thanerdy” yr ystyr a roddir, yn ôl eu trefn i “collagen intended for human consumption”, “establishment producing collagen” “collection centre”, “raw material” a “tannery” yn Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC; ac
ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC” yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC5 ynglŷn â'r gofynion ar gyfer colagen6.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 19963
1
I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 19967 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
2
Ym mharagraff 9 o Atodlen 3 (Community measures relevant to intra-Community trade) caiff y geiriau “and Commission Decision 2003/721/EC (OJ No. L260, 11.10.2003, p.21) ” eu mewnosod yn union o flaen y geiriau “and as amended by”.
3
Ym mharagraff 12 o Atodlen 3 caiff y geiriau “Commission Decision 2003/721/EC (OJ No.L260, 11.10.2003, p.21) ” eu mewnosod ar ddiwedd y paragraff hwnnw.
Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai4
1
an wneir cais o dan y Rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy at ddibenion cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, os caiff yr awdurdod bwyd ei fodloni —
a
bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy ystafelloedd storio a chanddynt loriau caled a waliau llyfn y mae'n hawdd eu glanhau a'u diheintio;
b
bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol;
c
bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai;
ch
bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar safle'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon; a
d
bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei hangen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth o'r awdurdodiad yn unol â rheoliad 9(2)(a).
2
Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliadau hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif penodol i'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw.
3
Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg mewn unrhyw sefydliad sy'n cael ei awdurdodi o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith —
a
o unrhyw newid, neu newid sylweddol a fwriedir, o ran perchnogaeth y busnes hwnnw; neu
b
unrhyw newid sylweddol, neu newid sylweddol a fwriedir, o ran rhedeg y busnes hwnnw.
Awdurdodi sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl5
1
Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi sefydliad i gynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni—
a
bod perchennog y sefydliad yn cynnal profion i sicrhau —
i
bod pwyntiau critigol yn y sefydliad mewn perthynas â'r broses gynhyrchu a ddefnyddir yn cael eu nodi a'u bod yn dderbyniol gan yr awdurdod bwyd,
ii
bod dulliau o fonitro a rheoli'r fath bwyntiau yn cael eu rhoi ar waith a'u bod yn dderbyniol gan yr awdurdod bwyd,
iii
bod samplau'n cael eu cymryd at ddibenion gwirio dulliau glanhau a diheintio a bod y sefydliad yn cydymffurfio â'r safonau a nodir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC,
iv
bod y samplau hynny'n cael eu ddansoddi fel sy'n briodol a hynny mewn labordy sy'n dderbyniol gan yr awdurdod,
v
yr hysbysir yr awdurdod bwyd ar unwaith pan fydd archwiliad o samplau mewn labordy neu unrhyw wybodaeth arall sydd yn nwylo'r perchennog yn datgelu bod yna risg ddifrifol i iechyd, a
vi
os bydd yna risg ar fin digwydd i iechyd, tynnir oddi ar y farchnad y cynhyrchion hynny a geir o dan amodau tebyg yn dechnolegol ac sy'n debygol o beri'r un risg;
b
bod gan berchennog y sefydliad sytem ar waith i sicrhau y gwneir cofnod ar ffurf barhaol mewn cysylltiad â'r materion a nodir yn is-adrannau (i) i (iii) o baragraff (a) a chanlyniadau'r dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (iv) o'r paragraff hwnnw, a bod y cofnod yn cael ei gadw am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf a'i fod ar gael i'r awdurdod bwyd os gofynnir amdano;
c
bod perchennog y sefydliad wedi trefnu neu wedi rhoi ar waith raglen hyfforddi staff er mwyn galluogi staff, sy'n ymwneud â chynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, ac nad oes ganddynt eisoes gymwysterau sy'n ddigonol ac yn berthnasol i'r pwrpas hwnnw, i gydymffurfio â'r amodau ar gynhyrchu hylan sy'n briodol i'w dyletswyddau; ac
ch
bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae ei hangen arno i hysbysu'r Asiantaeth o awdurdodiad yn unol â rheoliad 9(2)(a).
2
Pan ganiateir awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif adnabod unigryw i'r sefydlaid dan sylw.
3
Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg yn unrhyw sefydliad a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith —
a
o unrhyw newid, neu newid a fwriedir, o ran perchnogaeth y busnes hwnnw; neu
b
o unrhyw newid perthnasol, neu newid perthnasol a fwriedir, o ran gweithredu'r busnes hwnnw.
Atal awdurdodiadau a'u tynnu yn ôl6
1
Caiff awdurdod bwyd atal awdurdodiad a ganiatawyd o dan reoliad 4 neu 5 neu ei dynnu'n ôl os yw wedi'i fodloni nad yw'r ganolfan gasglu, y tanerdy neu'r sefydliad dan sylw (“y safle”) yn bodloni'r gofynion a bennir yn rheoliad 4(1) neu 5(1) fel sy'n briodol, neu fod perchennog y safle wedi methu â chydymffurfio â rheoliadau 4(3) neu 5(3), fel sy'n briodol.
2
Rhaid i awdurdod bwyd beidio ag atal awdurdodiad neu ei dynnu'n ôl o dan y rheoliad hwn oni bai —
a
ei fod wedi cyflwyno hysbysiad i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle; a
b
ei fod wedi'i fodloni, ar ôl i'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ddod i ben, nad yw'r safle'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad.
3
Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2)(a) —
a
datgan bod yr awdurdod bwyd yn bwriadu atal yr awdurdodiad neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl;
b
nodi pob gofyniad, a bennir yn rheoliad 4(1) neu (3) neu reoliad 5(1) neu (3), fel sy'n briodol, ac y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd ag ef mewn perthynas â'r safle;
c
mewn perthynas â phob gofyniad a nodir o dan is-baragraff (b) uchod, rhoi'r rhesymau pam mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd â'r gofyniad; ac
ch
datgan y gall yr awdurdodiad gael ei atal neu ei dynnu'n ôl oni bai bod perchennog y busnes yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn unrhyw amser rhesymol a nodir yn yr hysbysiad.
Yr hawl i apelio7
1
Caiff person a dramgwyddir drwy benderfyniad gan awdurdod bwyd o dan y Rheoliadau hyn i wrthod awdurdodiad neu i atal awdurdodiad neu i dynnu awdurdodiad yn ôl apelio i lys ynadon.
2
Bydd adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn effeithiol mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn fel y maent yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno.
3
Ni fydd tynnu yn ôl neu atal awdurdodiad a ganiatawyd o dan reoliad 4 neu 5 yn dod yn effeithiol nes i'r amser ar gyfer apelio yn erbyn hynny ddod i ben ac, os gwneir apêl, nes penderfynu ar yr apêl yn derfynol.
Dileu awdurdodiad8
Rhaid i awdurdod bwyd ddileu awdurdodiad o dan reoliad 4 neu 5 —
a
ar gais perchennog y busnes y mae'r safle wedi'i awdurdodi mewn perthynas ag ef; neu
b
os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r busnes a oedd yn cael ei redeg ar y safle yn cael ei redeg yno mwyach.
Cofrestru9
1
Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestr o safleoedd sydd wedi'u hawdurdodi o dan reoliad 4 neu 5.
2
Rhaid i bob awdurdod bwyd hysbysu'r Asiantaeth, drwy unrhyw gyfrwng y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth ofyn amdano —
a
o bob awdurdodiad a roddir o dan reoliad 4 neu 5;
b
o bob awdurdodiad a dynnir yn ôl, a atelir neu a ddilëir gan yr awdurdod bwyd;
c
o bob hysbysiad a roddir o dan reoliad 6(2)(a);
ch
o unrhyw newid o ran perchnogaeth y busnes sy'n cael ei redeg ar safle sydd wedi'i awdurdodi o dan reoliad 4 neu 5; a
d
o unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad yn yr wybodaeth yn y gofrestr sy'n dod i sylw'r awdurdod bwyd.
3
Rhaid i bob hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth ganlynol —
a
cyfeiriad y safle;
b
enw perchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle;
c
unrhyw enw masnachu neu enw arall (ac eithrio enw'r perchennog) yr adnabyddir y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle wrtho;
ch
y Rhif adnabod a roddwyd o dan reoliad 4(2) neu 5(2);
d
ai fel canolfan gasglu, fel tanerdy ynteu fel sefydliad sy'n cynhyrchu colagen y mae'r safle wedi'i awdurdodi; ac
dd
y dyddiad y mae'r awdurdodiad a roddwyd o dan reoliad 4 neu 5 yn dod yn effeithiol a'r dyddiad y daeth atal yr awdurdodiad, ei dynnu'n ôl, neu ei ddileu yn effeithiol.
4
Rhaid i'r Asiantaeth gymryd camau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol.
Gorfodi10
Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod bwyd yn ei ardal a bydd rheoliad 6(2) i (6) o Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 yn gymwys mewn perthynas ag awdurdod bwyd sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys mewn cysylltiad ag awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Rheoliadau hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19988
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)