- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r rheoliadau canlynol —
(a)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000(3);
(b)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2001(4));
(c)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002(5); ac
(ch)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002(6).
3. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sydd wrthi'n bennaf yn darparu addysg lawnamser neu ran-amser sydd yn addas ar gyfer plant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol orfodol;
ystyr “y flwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n diweddu gyda dechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol; ac
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig nad yw awdurdod addysg lleol yn ei chynnal.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhennir pob diwrnod y mae ysgol yn cyfarfod yn ddwy sesiwn a wahenir gan egwyl yng nghanol y dydd oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn peri nad yw hyn yn ddymunol.
(2) Rhaid cynnal o leiaf 380 o sesiynau mewn ysgol yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.
(3) Pan rwystrir ysgol ar unrhyw adeg rhag cyfarfod am un neu fwy o sesiynau y bwriadwyd iddi gyfarfod, ac nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud trefniadau iddi gyfarfod ar adeg wahanol ar gyfer y sesiynau hynny, ymdrinnir â'r ysgol at ddibenion paragraff (2) fel pe bai wedi cyfarfod yn unol â'r bwriad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ar bob diwrnod y bydd ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin yn cyfarfod rhaid darparu o leiaf deirawr o weithgareddau addas.
(5) Mae'n ddigonol darparu gweithgareddau addas am awr a hanner i ddisgybl ar ddiwrnod pan fydd y disgybl —
(a)yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin sy'n cyfarfod am un sesiwn yn unig; neu
(b)yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin am un sesiwn yn unig allan o ddwy sesiwn.
(6) Mewn ysgol sy'n cyfarfod ar chwe diwrnod o'r wythnos gall fod un sesiwn yn unig ar ddau o'r dyddiau hynny.
5.—(1) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2003—2004 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.
(2) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2004—2005 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.
(3) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2005—2006 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys ond mewn perthynas â sesiynau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2004 ac nid oes dim ym mharagraffau (1), (2) a (3) i fod yn effeithiol mewn perthynas â mwy na dwy sesiwn ysgol ym mhob blwyddyn ysgol.
(5) Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud â datblygu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r cyfnod allweddol cyntaf a throsi rhwng y cyfnodau allweddol ac ar gyfer cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 fel y'i diwygiwyd.
Mae Rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.
Mae Rheoliad 5 yn darparu na cheir trin mwy na dwy sesiwn ysgol a neilltuwyd ar gyfer hyfforddi athrawon mewn datblygu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r cyfnod allweddol cyntaf a throsi rhwng y cyfnodau allweddol ac ar gyfer cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm ym mhob un o'r blynyddoedd ysgol 2003—2004, 2004—2005 a 2005—2006 fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol.
1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: