2003 Rhif 3232 (Cy.312)
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 163(3)(b) a 210(7) o Ddeddf Addysg 20021, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
2
Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru.
3
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw arolygiad cyn 1 Ionawr 2006 o ysgol a oedd ar 31 Rhagfyr 2003 wedi'i chofrestru dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf Addysg 19962.
Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu4
Pan fydd yr awdurdod cofrestru yn ei gwneud yn ofynnol bod yr adroddiad arolygu a wnaed o dan adran 163(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002 cael ei gyhoeddi, rhaid i'r person a gynhaliodd yr arolygiad —
a
anfon copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw at y perchennog, a
b
rhoi copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw, ar y rhyngrwyd ar ei wefan.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)