2003 Rhif 3235 (Cy.315)
Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw'r person sy'n cadw, neu sy'n meddu ar, neu sydd â rheolaeth dros, aderyn;
ystyr “CITES” (“CITES”) yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl3;
ystyr “marc CITES” (“CITES marking”) yw marc sy'n bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi yn rheoliad 5(3);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;
ystyr “modrwy” (“ring”) yw unrhyw fodrwy neu fand ar gyfer modrwyo aderyn.
2
Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn gyfeiriad at unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 i'r Ddeddf ac y mae unrhyw berson yn ei gadw, yn meddu arno neu'n ei reoli.
Cofrestru3
1
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf, gadw cofrestr o adar y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac sy'n cael eu cadw mewn cyfeiriadau yng Nghymru.
2
Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud gan geidwad, neu ddarpar geidwad, yr aderyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef ar ffurflen a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol.
3
Pan fydd yn cael cais am gofrestriad, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nodi'r wybodaeth berthnasol ar y gofrestr.
4
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â chofrestru unrhyw aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo oni bai ei fod wedi'i fodloni bod yr aderyn wedi'i fodrwyo neu wedi'i farcio yn unol â rheoliad 5.
5
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dâl rhesymol am gofrestru y mae wedi penderfynu arno o dan adran 7(2A) o'r Ddeddf fynd gyda chais a chaiff wrthod gwneud cofnod yn y gofrestr ar gyfer cais nes bod y tâl hwnnw wedi'i dalu.
6
Os bydd ceidwad cofrestredig aderyn yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig fod yr aderyn i beidio â chael ei gadw yn y cyfeiriad cofrestredig, gan ddatgan y dyddiad y mae hynny i fod i ddigwydd a chan nodi cyfeiriad arall yng Nghymru y mae'r aderyn i'w gadw ynddo ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar yr amod bod hysbysiad yn dod i law cyn y dyddiad hwnnw, newid y cyfeiriad cofrestredig felly o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Terfynu cofrestriad4
1
Mae effaith cofrestriad yn peidio —
a
pan fydd yr aderyn cofrestredig —
i
yn marw;
ii
yn dianc neu'n cael ei ryddhau i'r gwyllt;
iii
yn cael ei waredu drwy ei werthu neu fel arall;
iv
yn cael ei allforio o'r Deyrnas Unedig;
b
pan fydd y fodrwy a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn ôl y digwydd, y marc CITES, yn cael ei thynnu oddi ar yr aderyn neu pan ddaw'r wybodaeth adnabod sydd arni neu sydd wedi'i storio arni yn annarllenadwy;
c
pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan berson heblaw ei geidwad cofrestredig neu pan fydd ym meddiant neu o dan reolaeth y person hwnnw, oni fwriedir ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw, ei feddiannu neu ei reoli ei ddychwelyd i'w geidwad cofrestredig o fewn y cyfnod penodedig a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly, ac yn yr is-baragraff hwn ystyr “y cyfnod penodedig” —
i
os na fydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o dair wythnos, a
ii
os bydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o chwe wythnos;
ch
pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan ei geidwad cofrestredig, neu pan fydd ym meddiant neu o dan reolaeth y ceidwad hwnnw, ond yn peidio â chael ei gadw yn ei gyfeiriad cofrestredig, oni bai —
i
y bwriedir, ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw, ei ddychwelyd i'w gyfeiriad cofrestredig o fewn tair wythnos a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly, neu
ii
bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig, cyn bod yr aderyn yn peidio â chael ei gadw felly, o'r cyfeiriad newydd lle bydd yn cael ei gadw ac o'r dyddiad y dechreuir ei gadw felly, a bod y cyfeiriad newydd hwnnw yng Nghymru.
2
Yn rheoliad 3(6) ac ym mharagraff (1)(c) ac (ch) uchod, ystyr “ceidwad cofrestredig” mewn perthynas ag aderyn cofrestredig yw'r person sydd wedi'i gofrestru fel ceidwad aderyn yn y gofrestr a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 3(1), ac ystyr “cyfeiriad cofrestredig” yw'r cyfeiriad sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr honno fel y cyfeiriad lle mae'r yr aderyn yn cael ei gadw.
Modrwyo a marcio5
1
Rhaid i bob aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo gael ei fodrwyo yn unol â pharagraff (2) neu ei farcio yn unol â pharagraff (3).
2
Mae aderyn wedi'i fodrwyo yn unol â'r paragraff hwn —
a
os yw'r aderyn wedi'i fodrwyo â modrwy a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol; a
b
os yw'r person a fodrwyodd yr aderyn wedi llenwi datganiad modrwyo ar ffurflen a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, ac wedi dychwelyd y ffurflen honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
3
Mae aderyn wedi'i farcio yn unol â'r paragraff hwn os yw'r aderyn wedi'i farcio yn unol â'r gofynion ynghylch marcio sbesimenau mewn Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gweithredu paragraff 7 o Erthygl VI o CITES.
Dirymu a darpariaethau trosiannol6
1
Dirymir drwy hyn Reoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 19824, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
2
Os —
a
yr oedd yn ofynnol i unrhyw berson neu os oedd unrhyw berson wedi'i awdurdodi5 i gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â Chymru o dan unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982;
b
y cafodd y camau hynny eu cymryd cyn i'r Rheoliadau hynny gael eu dirymu gan y Rheoliadau hyn; ac
c
y cafodd y ddarpariaeth o dan sylw ei hail-ddeddfu gan y Rheoliadau hyn;
mae'r camau hynny i'w trin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel petaent wedi'u cymryd o dan y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)