Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 19974).

Diwygio Rheoliadau 19973.

Mae Rheoliadau 1997 yn cael eu diwygio, mewn perthynas â Chymru, yn unol â'r Atodlen.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol