Rhagolygol
Nodyn Esboniadol
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi terfynau ar bwerau athrawon sydd â gofal unedau cyfeirio disgyblion i wahardd disgyblion o dan adran 52(2) o Ddeddf Addysg 2002, a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan yr athro neu'r athrawes â gofal a'r awdurdod addysg lleol yn dilyn gwaharddiad o uned cyfeirio disgyblion.
Mae Rheoliad 2 yn cyflwyno diffiniad newydd o “berson perthnasol” at ddibenion y Rheoliadau hyn ac yn darparu hefyd fod unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod yr amser cinio i'w gyfrif yn waharddiad am chwarter o ddiwrnod ysgol.
Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r awdurdod addysg lleol fel y corff cyfrifol o dan adran 52(3) o Ddeddf 2002 ar gyfer ystyried a ddylid derbyn y disgybl sydd wedi'i wahardd yn ôl i'r ysgol.
Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r person perthnasol o fanylion gwaharddiad. Rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hefyd hysbysu'r awdurdod addysg lleol a yw'r gwaharddiad yn barhaol, a fydd yn golygu bod y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu a fydd yn mynd â chyfanswm y gwaharddiadau i'r disgybl hwnnw dros bum diwrnod mewn unrhyw dymor.
Mae Rheoliad 6 yn darparu ynglŷn ag ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal ei darparu i'r awdurdod addysg lleol ac ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os bydd yn gofyn amdani.
Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod addysg lleol, os bydd y gwaharddiad yn golygu y bydd y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu'n mynd â chyfanswm y gwaharddiadau ar gyfer y disgybl hwnnw dros 15 diwrnod mewn tymor, yn ystyried yr amgylchiadau, gwrando ar unrhyw sylwadau gan y person perthnasol, y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a'r athro neu'r athrawes â gofal, a phenderfynu a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio.
Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i'r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad yr athro neu'r athrawes â gofal i wahardd disgybl yn barhaol. Nid yw methiant i ddilyn gofynion gweithdrefnol ynddo'i hun i arwain at benderfyniad i dderbyn yn ôl. Mae penderfyniad y panel apêl yn rhwymol. Caiff y panel benderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i dderbyn disgybl yn ôl os yw'n ystyried nad yw'n ymarferol oherwydd amgylchiadau eithriadol neu resymau eraill.
Mae Rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon â gofal, awdurdodau addysg lleol a phanelau apêl roi sylw i ganllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Atodlen yn rhagnodi cyfansoddiad y panelau apêl a'r gweithdrefnau ar eu cyfer drwy wneud addasiadau priodol i'r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwaharddiadau ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003.