Rhagolygol
Rheoliad 8
YR ATODLENLL+CADDASIADAU I'R ATODLEN I REOLIADAU ADDYSG (GWAHARDD DISGYBLION AC APELAU) (YSGOLION A GYNHELIR) (CYMRU) 2003
1. Yn lle paragraff 1(1) rhoddir —LL+C
“1.—(1) Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 8(1) yn erbyn penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 5(3)(b).”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 1 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
2. Ym mharagraff 1(3), yn lle'r geiriau “i beidio â derbyn disgybl yn ôl”, rhoddir “i wahardd y disgybl yn barhaol”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 2 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
3. Yn lle “rheoliad 7(1)” ym mhob man y mae'n digwydd, rhodder “rheoliad 8(1)”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 3 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
4. Yn lle paragraff 2(7) rhoddir —LL+C
“(7) Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —
(a)unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol neu bwyllgor rheoli (os oes un) yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw;
(b)yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw neu unrhyw athro neu athrawes yn yr uned honno neu unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw swydd o'r fath yn y pum mlynedd flaenorol;
(c)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol, heblaw person a gyflogir fel pennaeth neu athro neu athrawes;
(ch)unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —
(i)yr awdurdod addysg lleol neu'r uned cyfeirio disgyblion, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu
(ii)y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,
o fath, y gellid yn rhesymol gymryd, a fyddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 4 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
5. Yn lle paragraff 10(2) rhoddir —LL+C
“(2) Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu —
(a)i'r athro neu'r athrawes â gofal roi sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli neu ei chynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar, a
(b)i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, yn ychwanegol at y datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyflwyno i'r panel o dan is-baragraff (1), i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 5 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
6. Ym mharagraff 14(a) hepgorir “y corff llywodraethu”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 6 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)