- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Os oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru reswm i gredu bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal yng Nghymru neu os oes parth archwilio moch fferal wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth ymchwilio moch fferal yng Nghymru y mae darpariaethau paragraff (3) yn gymwys iddo.
(2) Rhaid i'r parth ymchwilio moch fferal gwmpasu'r ardal sydd, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei hangen er mwyn ei alluogi i wneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu moch fferal neu sy'n cael hyd i garcas moch fferal mewn ardal ymchwilio moch fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os yw'r person wedi saethu'r mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: