Dehongli2

1

Yn y Gorchymyn hwn, os nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “abwyfa” (“knacker’s yard”) yw unrhyw safle a ddefnyddir mewn cysylltiad â lladd, blingo neu dorri anifeiliaid na fwriedir i'w cig gael ei fwyta gan bobl;

  • ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas mochyn ac mae'n cynnwys rhan o garcas;

  • ystyr “y clefyd” (“the disease”) yw clwy Affricanaidd y moch;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw fan lle y mae unrhyw fochyn yn cael ei fridio neu ei gadw yn barhaol neu dros dro neu wedi cael eu cadw ar unrhyw adeg yn ystod y 56 diwrnod blaenorol, ond nid yw'n cynnwys lladd-dy, abwyfa, cyfrwng cludo nac ardal wedi ei ffensio lle y cedwir moch fferal y gellir eu hela;

  • ystyr “daliad a amheuir” (“suspected holding”) yw daliad y mae hysbysiad o dan erthygl 5 wedi cael ei gyflwyno ynglŷn ag ef;

  • ystyr “daliad heintiedig” (“infected holding”) yw daliad y mae'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol yno;

  • ystyr “fector” (“vector”) yw torogen o'r rhywogaeth Ornithodorus erraticus neu unrhyw dorogen o'r genws Ornithodorus sydd, ym marn y Prif Swyddog Milfeddygol, â'r gallu i drosglwyddo clwy Affricanaidd y moch;ystyr “y feirws” (“the virus”) yw feirws clwy Affricanaidd y moch;

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw unrhyw adeilad, safle neu le arall (heblaw cyfleuster trafod anifeiliaid hela a ffermir) ar gyfer cigydda anifeiliaid y bwriedir eu cig i'w fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys unrhyw le sydd ar gael mewn cysylltiad ag ef lle cedwir anifeiliaid cyn eu cigydda;

  • ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o dylwyth y suidae;

  • ystyr “mochyn fferal” (“feral pig”) yw mochyn nas cedwir na bridir ar ddaliad ac nad yw mewn lladd-dy, mewn abwyfa nac ar gyfrwng cludo;

  • ystyr “y Prif Swyddog Milfeddygol” (“the Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr; ac

  • ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r person a benodir dros dro gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gael gwybod am anifeiliaid a charcasau sydd wedi eu heintio neu yr amheuir eu bod wedi eu heintio ar gyfer yr ardal lle y mae'r anifeiliaid neu'r carcasau hynny.

2

At ddibenion y Gorchymyn hwn —

i

amheuir bod mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os oes ganddo arwyddion clinigol neu namau post mortem sy'n cyd-fynd ag effeithiau'r feirws neu os yw canlyniadau prawf diagnostig yn dangos ei bod yn bosib bod y feirws yn bresennol yn yr anifail hwnnw neu'r carcas hwnnw;

ii

mae mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol yn penderfynu ei fod wedi'i heintio ar sail arwyddion clinigol, neu namau post mortem, neu ganlyniadau prawf diagnostig neu amgylchiadau epidemiolegol.