Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn:

ystyr “apêl” (“appeal”) yw, mewn perthynas ag—

(a)

adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, penderfyniad ar gais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond nid yw'n cynnwys cais y bernir iddo gael ei atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd rheoliad 13(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1); a

(b)

adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, apêl wedi'i gwneud o dan yr adran honno;

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw, yn achos:

(a)

cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person a wnaeth y cais hwnnw i'r awdurdod cynllunio lleol;

(b)

apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person y gwrthodwyd ei gais, neu y rhoddwyd caniatad, cytundeb neu gymeradwyaeth i'w gais yn ddarostyngedig i amodau neu nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)

apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw, mewn perthynas ag:

(a)

cais o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a ymdriniasai â'r cais pe nas atygyfeirid i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)

apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu'r cais a achosodd yr apêl; ac

(c)

apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y corff a gyflwynodd yr hysbysiad o dan adran 207(1) o'r Deddf honno;

ystyr “cais” (“application”) yw, mewn perthynas ag:

(a)

adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)

adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sy'n destun yr apêl; ac

(c)

adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;

mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddwyd i'r term “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(2);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

mae cyfeiriadau at adran 12, 19 neu 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cynnwys cyfeiriad at yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno;

ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

mae cyfeiriadau at adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i geisiadau am orchymynion cadw coed a wneir o dan y Ddeddf honno;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw dyddiad:

(a)

hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol ei fod wedi cael yr holl ddogfennau sy'n ofynnol i'w alluogi i roi ystyriaeth i'r apêl; neu

(b)

hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4 isod, p'un bynnag yw'r diweddaraf;

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar ffurf a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdod cynllunio lleol at ddibenion achos o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw, mewn perthynas ag:

(a)

cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, cais ysgrifenedig gan yr apelydd i'r mater gael ei benderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig; ac

(b)

apêl a ddugwyd o dan adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynwyd gan yr apelydd, sy'n hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig; ac

mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources