2003 Rhif 395 (Cy.54)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 175, 323 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac adrannau 40, 89(1), 91(1) a 93(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19902 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: