Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003
2003 Rhif 416 (Cy.60)
AFON, CYMRU
PYSGODFEYDD EOGIAID A PHYSGOD DŵR CROYW
Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1(1) o Ddeddf Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 19801 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw; ac, yn unol ag adran 1(2) o'r Ddeddf honno, ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac English Nature ac unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol; ac am ei fod o'r farn y gallai'r rhywogaethau o bysgod byw y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt gystadlu ag unrhyw bysgod dŵ r croyw, pysgod cregyn neu eogiaid yng Nghymru, neu eu disodli, eu hysglyfaethu neu niweidio eu cynefin, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: