2003 Rhif 416 (Cy.60)
AFON, CYMRU
PYSGODFEYDD EOGIAID A PHYSGOD DŵR CROYW

Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1(1) o Ddeddf Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 19801 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw; ac, yn unol ag adran 1(2) o'r Ddeddf honno, ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac English Nature ac unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol; ac am ei fod o'r farn y gallai'r rhywogaethau o bysgod byw y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt gystadlu ag unrhyw bysgod dŵ r croyw, pysgod cregyn neu eogiaid yng Nghymru, neu eu disodli, eu hysglyfaethu neu niweidio eu cynefin, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Mawrth 2003.

(2)

Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio2.

Diwygir Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 19982 fel a ganlyn —

(a)

yn Erthygl 2 (sy'n gwahardd cadw neu ollwng pysgod penodedig ac eithrio o dan drwydded) yn lle'r geiriau “the Minister” rhoddir y geiriau “the National Assembly for Wales”; a

(b)

yn lle'r Atodlen (sy'n pennu'r rhywogaethau o bysgod y gwaherddir eu cadw neu eu gollwng ac eithrio o dan drwydded) rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

ERTHYGL 2(B)

“SCHEDULESPECIES OF FISH WHOSE KEEPING OR RELEASE IN ANY PART OF WALES IS PROHIBITED EXCEPT UNDER AUTHORITY OF A LICENCE GRANTED BY THE NATIONAL ASSEMBLY FOR WALES

COMMON NAME

SCIENTIFIC NAME

Asp

Aspius aspius

Barbel species

species of the genus Barbus (excluding The native Barbus barbus)

Bass species (including striped bass, white bass and their crosses e.g. hybrid striped bass)

species of the genus Morone

Big-head carp

Aristicthys nobilis

Bitterling

Rhodeus sericeus/Rhodeus amarus

Blacknose Dace

Rhinichthys atratulus

Blageon

Leuciscus souffia

Blue Sucker

Cycleptus elongatus

Blue bream

Abramis ballerus

Burbot

Lota lota

Catfish

species of the genera Ictalurus, Amerius and Silurus

Charr species (including American Brook Trout)

species of the genus Salvelinus (excluding the native alvelinusalpinus)

Chinese black or snail-eating carp

Mylopharyngodon piceus

Chinese Sucker (also known as Zebra Hi Fin, banded shark/sucker)

Myxocyprinus asiaticus

Common White Sucker

Catostomus commersoni

Danubian bleak

Chalcalburnus chalcoides

Danubian Salmon & Taimen

species of the genus Hucho

Eastern Mudminnow

Umbra pygmaea

European Mudminnow

Umbra krameri

Fathead minnow (or Roseyreds)

Pimephales promelas

Freshwater minnow, Dragon fish or Pale chub

Zaacco platypus

Grass carp

Ctenopharyngodon idella

Landlocked salmon

non-anadromous varieties of the species Salmo salar

Large-mouthed black bass

Micropterus salmoides

Marbled trout

Salmo marmoratus

Nase

Chondrostoma nasus

Northern Redbelly Dace (common minnow)

Phoxinus/Chrosomus eos

Pacific salmon and trout (excluding rainbow trout but including steelheads)

Species of the genus Oncorhynchus

Paddlefish

species of the genera Polyodon and Psepherus

Perch species

species of the genus Perca (excluding the native Perca fluviatilis)

Pike-perch (including zander)

species of the genus Stizostedion

Pike species

species of the genus Esox (excluding the native Esox lucius)

Red shiner

Cyprinella/Notropis lutrensis

Rock bass

Ambloplites rupestris

Schneider

Alburnoides bipunctatus

Silver carp

Hypophthalmichthys molitrix

Snakeheads, Northern or Chinese

Channa argus

Small mouth bass

Micropterus dolomieu

Southern Redbelly Dace (common minnow)

Phoxinus/Chrosomus ertythrogaster

Sturgeon or sterlet

species of the genera Acipenser, Huso, Pseudoscaphirhynchus and Scaphirhynchus

Sunbleak (Sundace), also known as Belica or Motherless Minnow

Leucaspius delineatus

Sunfish, including Pumpkinseed, (also basses crappies & bluegills)

Species of the genus Lepomis

Topmouth gudgeon

Pseudorasbora parva

Toxostome (or French nase)

Chondrostoma toxostoma

Vimba

Vimba vimba

Weather fish

Misgurnus fossilis

Whitefish species

species of the genus Coregonus (excluding the native Coregonus lavaretus and Coregonus albula)”

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 1998 (“Gorchymyn 1998”), mewn perthynas â Chymru —

(1)

drwy ddarparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr awdurdod trwyddedu mewn perthynas â'r gwaharddiad yng Ngorchymyn 1998 ar gadw neu ollwng pysgod penodedig ac eithrio o dan drwydded (erthygl 2(a)); a

(2)

drwy roi Atodlen newydd yn lle'r un a gynhwysir yng Ngorchymyn 1998 sy'n pennu'r rhywogaethau o bysgod y bydd y Gorchymyn hwnnw yn gymwys iddynt (erthygl 2(b)). Mae'r Atodlen newydd yn ychwanegu at y rhywogaethau a bennwyd yn yr Atodlen wreiddiol.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn a'i adneuo yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth y canlynol:

Y Gangen Bysgodfeydd

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Parc Cathays

Caerdydd CF10 3NQ