- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu a disodli Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001 ('Gorchymyn 2001') (O.S. 2001/2662 (Cy.218). Mae'r Gorchymyn hwn, sydd yn gymwys i Gymru, yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17) a weithredwyd gynt gan baragraff 26 o Atodlen 1 i Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 (O.S. 1997/1480). Mae'n gweithredu hefyd Erthygl 12.1(a), ail gilosodiad Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC am broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned (cydgyfnerthwyd y Gyfarwyddeb hon yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC, OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1).
Dyma'r prif newidiadau ers Gorchymyn 2001 a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn—
eglurhad nad yw'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio diheintydd y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo (erthygl 5); ac
ychwanegu cyfrwng cludo mewn sioe (yn ddarostyngedig i amodau penodol) at yr amgylchiadau pan fydd erthygl 4 yn gymwys yn hytrach nag erthygl 3 (Atodlen 2, paragraff 4).
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, ar ôl cludo unrhyw anifeiliaid carnog, a ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl, fod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a'r cyfarpar a gludir gyda hwy yn unol ag Atodlen 2 cyn ei ddefnyddio eto i gludo'r anifeiliaid hynny (erthygl 3(3) a (4)). Mae hefyd yn pennu, hyd yn oed os yw hynny wedi ei wneud, bod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo eto cyn i'r anifeiliaid hynny gael eu cludo os yw'r cyfrwng cludo wedi ei faeddu fel y byddai'n peri perygl o drosglwyddo clefyd (erthygl 3(5)). Ar ôl mynd ar daith, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ond beth bynnag o fewn dim mwy na 24 awr (erthygl 3(3)). Mae'n ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid i symud ymaith unrhyw anifeiliaid meirw, sarn (llaesodr) a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol (erthygl 3(6)).
Mae erthygl 4 yn gymwys i bob anifail ac aderyn arall (ond nid yn gymwys i deithiau nad ydynt yn fasnachol nac i gludo anifeiliaid unigol neu anifeiliaid anwes) ac i'r amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1 (lle y byddai erthygl 3 yn gymwys fel arall). Mae'r amgylchiadau hyn yn ymwneud â theithiau o fewn un fenter ffermio, cludo ceffylau penodol, teithiau rhwng yr un dau bwynt a chyfrwng cludo mewn sioe da byw. Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid sy'n gymwys gael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, wedi ei ddiheintio, a bod anifeiliaid meirw, sarn (llaesodr) a charthion yn cael eu symud ymaith o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo modd.
Mae erthygl 6 yn pennu ym mha ffordd y mae'n rhaid cael gwared â'r deunydd o'r cyfrwng cludo.
O dan erthygl 7, mae gan arolygydd bwer, o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.
Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 8).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gellir ei gosbi yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honNo.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: