Erthyglau 3(2) a 4(1)
1. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys os yw'r daith wedi ei gwneud o fewn menter ffermio unigol sydd o dan un berchenogaeth.
2. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chludo—
(a)ceffylau a ddefnyddir at ddibenion hamdden neu chwaraeon yn unig; neu
(b)ceffylau a gedwir mewn stablau a drwyddedir gan Glwb y Jocis yn ôl ac ymlaen i gyfarfodydd rasio, neu yn ôl ac ymlaen i fan lle mae ceffylau sy'n cael eu cadw yn y stablau hynny yn cael eu hyfforddi i rasio.
3.—(1) Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo a ddefnyddir, yn ystod diwrnod unigol, ddim ond i gludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt, ar yr amod bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar—
(a)wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd; a
(b)yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl gorffen y daith olaf i gludo anifail yn ystod y diwrnod hwnnw, a beth bynnag cyn iddynt gael eu defnyddio eto mewn cysylltiad â chludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.
(2) Yn y paragraff hwn mae “taith olaf” yn cynnwys—
(a)taith a ddechreuwyd ond heb ei gorffen cyn canol nos ar y diwrnod dan sylw; a
(b)yn achos anifail carnog sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad yn ystod yr hwyr neu un sy'n parhau yn yr hwyr, ar y diwrnod dan sylw, taith a ddechreuwyd cyn gynted ag y bu'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn canol nos ai peidio.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy farchnad na theithiau o darddle i sioe da byw ac yn ôl.
4. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar mewn sioe da byw ar yr amod—
(a)bod y cyfrwng cludo wedi dod yn uniongyrchol o'r tarddle i'r sioe;
(b)nad yw'r cyfrwng cludo yn ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;
(c)mai'r anifeiliaid a gludwyd i'r sioe yw'r unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo pan yw yn y sioe;
(ch)nad yw'r cyfrwng cludo ond yn cludo'r anifeiliaid a gludasai i'r sioe ar y daith yn ôl; a
(d)bod y cyfrwng cludo yn dychwelyd o'r sioe yn uniongyrchol i'r tarddle.
5. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho ohono, a hynny dim ond i roi bwyd neu ddwr iddynt, neu at ryw nod dros dro arall, ac wedyn eu hail?lwytho arNo.
Erthyglau 3(3), (4) a (5), 4(4)
1. Rhaid gwneud yr holl lanhau a diheintio er mwyn lleihau cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, y perygl o drosglwyddo'r clefyd.
2.—(1) Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd—
(a)rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi eu baeddu ai peidio: holl wynebau mewnol y rhannau hynny o'r cyfrwng cludo y cludwyd yr anifeiliaid ynddynt, a phob rhan o'r cyfrwng cludo y mae'n bosibl bod yr anifeiliaid wedi cael mynd ati yn ystod y daith; a
(b)rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi eu baeddu—
(i)unrhyw ffitiadau datodadwy nas defnyddiwyd yn ystod y daith,
(ii)unrhyw ran arall o'r cyfrwng cludo, a
(iii)unrhyw gyfarpar.
(2) Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.
(3) At ddibenion erthygl 3, rhaid i bob rhan o gyfrwng cludo y mae'n ofynnol ei glanhau gael ei diheintio hefyd.
3. Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw sarn (llaesodr), unrhyw garthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, a glanhau wedyn â dŵ r, stêm neu, pan fo'n briodol, gemegau neu gyfansoddion cemegol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes cael gwared ar y baw.
4. Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(1) yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.
O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/934.