- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3(2)(a)
1.—(1) Symud anifail i fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol.
(2) Symud anifail o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol iddo ar yr amod nad yw'r anifail wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid eraill tra oedd yn y fan lle y rhoddir triniaeth.
(3) Symud anifail i labordy lle y gwneir profion diagnostig arno i gadarnhau a effeithiwyd ar yr anifail gan glefyd neu a ydyw wedi dod i gyffyrddiad â chlefyd.
2. Symud anifail yn uniongyrchol i ladd-dy.
3. Symud mochyn i farchnad ar gyfer moch y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth.
4. Symud anifail i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth, ar yr amod—
(a)na ddefnyddiwyd safle'r ganolfan gasglu ar yr un diwrnod ar gyfer sioe neu arddangosfa neu ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid ac eithrio anifeiliaid i'w cigydda'n syth, a
(b)y symudir yr holl anifeiliaid a symudwyd i'r ganolfan gasglu oddi yno'n syth i ladd-dy.
5. Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.
6. Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 6 diwrnod cyn ymadael.
7. Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynnyrch Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 cyn ei allforio.
8. Symud anifail rhwng safleoedd mewn grŵp meddiannaeth unigol.
9.—(1) Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac —
(a)safle sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef; neu
(b)safle sydd ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, sy'n cael ei harfer fel rheol mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(2) Mae symud anifail rhwng safle, sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol honno mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr “hawl gofrestredig i gomin” (“registered right of common”) yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965(1).
10.—(1) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.
(2) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.
11. Symud mochyn i sioe neu arddangosfa os yw wedi'i ynysu am 20 niwrnod cyn iddo gael ei symud a hynny ar y safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
12. Symud anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cyfrwng cludo tra bu ar y safle.
13. Symud ceirw oddi ar unrhyw safle.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: