Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diddymu2
Dehongli3
Heblaw pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y rheoliadau hyn —
mae i “asiant” yr ystyr a roddir i “agent” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw —
- a
person sydd ar hyn o bryd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
- b
person a gofrestrwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1998 ar adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu
- c
person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
- a
mae i “cyflogwr perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant employer” yn adran 142 o Ddeddf Addysg 20025;
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw gwasanaethau a ddarparwyd i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae'n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;
mae i “gweithiwr” yr ystyr a roddir i “worker” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “mater perthnasol” (“relevant issue”) yw mater sy'n codi pan fydd amgylchiadau'r achos, gan gynnwys achlysuron o ymddygiad heblaw'r hwnnw sydd o dan sylw, o'r fath eu bod yn codi mater sy'n ymwneud â diogelwch a lles plant;
ystyr “Pwyllgor” (“Committee”) yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol neu Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a sefydlwyd o dan Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001;
ystyr “Pwyllgor Ymchwilio” (“Investigating Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001; ac
ystyr “trefniadau” yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yng nghyswllt y gair “arrangements” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998 i weithiwr gyflawni gwaith yng Nghymru.
Adroddiadau gan gyflogwr
4
Pan—
a
fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm —
i
nad yw'r person yn gymwys i weithio â phlant;
ii
sy'n ymwneud â chamymddygiad y person; neu
iii
sy'n ymwneud â iechyd y person os yw mater perthnasol yn codi; neu
b
y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm o'r fath pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,
rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol.
5
1
Pan —
a
fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol; neu
b
y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,
rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cyngor.
2
Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
Adroddiadau gan asiant
6
Pan —
a
fo asiant wedi terfynu trefniadau am reswm —
ii
nad yw'r gweithiwr yn gymwys i weithio â phlant;
ii
sy'n ymwneud â chamymddygiad y gweithiwr; neu
iii
sy'n ymwneud â iechyd y gweithiwr os yw mater perthnasol yn codi;
b
y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu
c
y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,
rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r gweithiwr i'r Cynulliad Cenedlaethol.
7
1
Pan—
a
fo asiant wedi terfynu trefniadau i weithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig gyflawni gwaith am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol;
b
y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu
c
y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,
rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r athro neu athrawes gofrestredig i'r Cyngor.
2
Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
Llofnodwyd a ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986