1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”), mewn perthynas â theulu, yw'r awdurdod lleol neu'r corff arall sy'n gyfrifol am drefnu lletya'r teulu mewn canolfan breswyl i deuluoedd;
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;
ystyr “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yw'r cynllun a baratoir yn unol â rheoliad 13;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 4;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(1);
ystyr “y Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y ganolfan breswyl i deuluoedd;
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y ganolfan breswyl i deuluoedd;
mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 4(2) o Ddeddf 2000;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd —
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (5) ar gyfer yr ardal y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr “teulu” (“family”) yw plentyn a rhiant y plentyn yn cael eu lletya neu i gael eu lletya gyda'i gilydd mewn canolfan breswyl i deuluoedd, a dehonglir yr ymadrodd “aelod o'r teulu” (“member of the family”) yn unol â hynny;
ystyr “trigolyn” (“resident”) yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd;
dehonglir “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 5;
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—
yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2),
yn cyflawni gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(3); neu
yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 heblaw yn unol â'r Ddeddf honno; a
mae i “ymholiad amddiffyn plant” (“child protection enquiry”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(3)(a).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio lle darperir fel arall, nid yw cyfeiriadau at blentyn yn cynnwys rhiant sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd sydd o dan 18 oed.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —
(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw; a
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.
3. At ddibenion y Deddf 2000, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn ganolfan breswyl i deuluoedd —
(a)os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd, yn ysbyty annibynnol, yn glinig annibynnol neu'n gartref gofal;
(b)os yw'n hostel neu'n lloches rhag trais domestig; neu
(c)mewn unrhyw achos arall, os darparu llety ynghyd â gwasanaethau neu gyfleusterau eraill i unigolion sydd yn oedolion yw prif ddiben y sefydliad, ac os mae'r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i brif ddiben y sefydliad.
4.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio —
(a)gan unrhyw berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;
(b)gan unrhyw un o'r trigolion;
(c)gan unrhyw awdurdod lleol sy'n arfer unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf 1989 mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r ganolfan breswyl i deuluoedd (yr “arweiniad trigolyn”) sy'n cynnwys crynodeb o'r datganiad o ddiben, a rhaid iddo ddarparu copi ohono i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a phob rhiant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig —
(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r trigolion o dan sylw, a'u diwygio os yw'n briodol; a
(b)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod ar ôl unrhyw ddiwygiad o'r fath.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.
(6) Ni fydd dim ym mharagraff (5) nac yn rheoliadau 14(1) nac 21(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy —
(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o Ddeddf 2000.