xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 4(1)
1. Datganiad o nodau ac amcanion y ganolfan breswyl i deuluoedd.
2. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau, gan gynnwys manylion y math o lety, sydd i'w darparu gan y ganolfan breswyl i deuluoedd.
3. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac enw a chyfeiriad unrhyw reolwr cofrestredig.
4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig.
5. Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol.
6. Strwythur trefniadol y ganolfan breswyl i deuluoedd.
7. Ffioedd a thaliadau'r ganolfan breswyl i deuluoedd.
8. Y meini prawf ar gyfer derbyniadau i'r ganolfan breswyl i deuluoedd, gan gynnwys, fel y bo'n gymwys, oedran isaf ac uchaf y rhieni a'r plant a dderbynnir (os oes oedran isaf ac uchaf).
9. Disgrifiad o ethos ac athroniaeth sylfaenol y ganolfan breswyl i deuluoedd, ac os yw'r rhain wedi'u seilio ar unrhyw fodel damcaniaethol neu therapiwtig, disgrifiad o'r model hwnnw.
10. Disgrifiad o unrhyw dechnegau penodol ar gyfer asesu, monitro neu therapi sydd i'w defnyddio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac o'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.
11. Disgrifiad o'r cyngor, y canllawiau a'r cwnsela a ddarperir, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer goruchwyliaeth broffesiynol.
12. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys sy'n gysylltiedig â hwy yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
13. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.
14. Y rheolau ac amodau sy'n gymwys i drigolion, ac o dan ba amgylchiadau y gall lleoliadau gael eu terfynu.
15. Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas y trigolion.
16. Y polisi ynghylch defnyddio cyffuriau ac alcohol yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
17. Polisi cyfrinachedd y ganolfan breswyl i deuluoedd.
18. Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant.