- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 19(3)
1. Copi o'r datganiad o ddiben.
2. Cofnod ar ffurf cofrestr sy'n dangos —
(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol pob aelod o bob teulu;
(b)y dyddiad y dechreuodd breswylio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;
(c)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno, a'r rheswm pam;
(ch)enw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol am drefnu i'r teulu aros yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;
(d)enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol a gweithiwr cymdeithasol, os oes un, pob aelod o'r teulu;
(dd)yn achos plentyn, unrhyw orchymyn llys y mae'n dod odano;
(g)yn achos plentyn sy'n destun gorchymyn gofal, enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod lleol dynodedig a swyddog yr awdurdod sy'n gyfrifol am achos y plentyn.
3. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff un o'r trigolion ar goll.
4. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir tân.
5. Cofnod o bob ymarfer tân, dril neu brawf ar offer tân (gan gynnwys larymau tân) a gynhelir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a chofnod o unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.
6. Cofnod dyddiol o'r digwyddiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd y bydd yn rhaid iddynt gynnwys manylion unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol a fydd yn effeithio ar drigolion —
(a)unrhyw ddamwain;
(b)unrhyw ddigwyddiad sy'n niweidiol i iechyd neu les trigolyn, gan gynnwys brigiad clefyd heintus;
(c)unrhyw anaf neu salwch a gaiff unrhyw drigolyn;
(ch)unrhyw dân;
(d)unrhyw ladrad neu fyrgleriaeth.
7. Cofnod sy'n dangos mewn perthynas â phob person a gyflogir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd —
(a)enw llawn;
(b)rhyw;
(c)dyddiad geni;
(d)cyfeiriad cartref;
(e)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant a'i brofiad o waith o'r fath;
(f)y swydd y mae'r person hwnnw yn ei dal, a faint o oriau y bydd yn gweithio bob wythnos, ar gyfartaledd.
8. Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 25.
9. Cofnod o bob cwyn a wneir gan y trigolion neu gan bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd am sut mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn gweithredu, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.
10. Cofnod o'r taliadau a godir, a'r ffioedd a delir, gan bob teulu neu mewn perthynas â hwy, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau nad yw'r taliadau hynny'n eu cynnwys, a'r symiau a delir gan bob un o'r trigolion neu mewn perthynas â hwy.
11. Copi o roster dyletswyddau staff y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a chofnod o'r rosteri a gafodd eu gweithio mewn gwirionedd.
12. Cofnod o bob ymwelydd â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.
13. Cofnod o bob cyfrif a gedwir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: