Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 803 (Cy.97)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

19 Mawrth 2003

Yn dod i rym

2 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 131(2) o Ddeddf Tai 1985(1) sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at y “prif Orchymyn” yn gyfeiriad at Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999(3).

Diwygio Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999

3.  Yn erthygl 3 (Mwyafswm disgowntau) o'r prif Orchymyn yn lle'r ffigur “£24,000” rhodder y ffigur “£16,000”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gall fod gan berson sy'n arfer yr hawl i brynu tŷ annedd yng Nghymru yr hawl o dan Ran V o Ddeddf Tai 1985 (“y Ddeddf”), o dan adrannau 129 i 131 o Atodlen 4 i'r Ddeddf, i ddisgownt sy'n gymesur â chanran o'r pris cyn disgownt.

Mae adran 131 o'r Ddeddf yn darparu terfynau ar swm y disgownt y mae gan brynwr arfaethedig hawl iddo ac mae adran 131(2) yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud Gorchymyn yn rhagnodi'r mwyafswm y gellir gostwng y pris sy'n daladwy am y tŷ annedd o dan y cynllun hawl i brynu. Breinir y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.

O dan adran 131(2), gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau ar y Disgownt) (Cymru) 1999 (“y prif Orchymyn”) a ragnododd, ymysg pethau eraill, mai mwyafswm y disgownt hwn oedd £24,000. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn drwy ddarparu mai mwyafswm y disgownt sydd ar gael yw £16,000.

(2)

Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).