xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gall fod gan berson sy'n arfer yr hawl i brynu tŷ annedd yng Nghymru yr hawl o dan Ran V o Ddeddf Tai 1985 (“y Ddeddf”), o dan adrannau 129 i 131 o Atodlen 4 i'r Ddeddf, i ddisgownt sy'n gymesur â chanran o'r pris cyn disgownt.

Mae adran 131 o'r Ddeddf yn darparu terfynau ar swm y disgownt y mae gan brynwr arfaethedig hawl iddo ac mae adran 131(2) yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud Gorchymyn yn rhagnodi'r mwyafswm y gellir gostwng y pris sy'n daladwy am y tŷ annedd o dan y cynllun hawl i brynu. Breinir y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.

O dan adran 131(2), gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau ar y Disgownt) (Cymru) 1999 (“y prif Orchymyn”) a ragnododd, ymysg pethau eraill, mai mwyafswm y disgownt hwn oedd £24,000. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn drwy ddarparu mai mwyafswm y disgownt sydd ar gael yw £16,000.