Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 813 (Cy.98)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

19 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 27(1), (3), (5)(a), (8), (9) a 154(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol —

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “cyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“EES employee”) yw person y cafodd ei gontract cyflogaeth ei drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys(2) o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig yn unol ag erthygl 5;

ystyr “Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“Extended Employment Scheme”) yw cynllun sy'n darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Powys gyflogi, am gyfnod heb fod yn fwy na 12 mis gan ddechrau ar y dyddiad trosglwyddo, bersonau y mae eu contractau cyflogaeth yn cael eu trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol ag erthygl 5;

ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw person —

(a)

y mae ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd Cymreig heb gael ei derfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall); a

(b)

a gafodd gynnig cyflogaeth ac a'i derbyniodd cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cyflogai gweddilliol” (“residual employee”) yw person —

(a)

y mae ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd Cymreig heb gael ei derfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall); a

(b)

na chafodd gynnig cyflogaeth neu na dderbyniodd gyflogaeth cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol(3) (heblaw gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig).

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2003; ac

ystyr “awdurdod iechyd Cymreig” (“Welsh health authority”) yw awdurdod iechyd a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996(4), ac a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Trosglwyddo swyddogaethau Awdurdodau Iechyd Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

3.  Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir holl swyddogaethau pob un o'r awdurdodau iechyd Cymreig mewn perthynas â'r ardal gyfan y mae pob un o'r awdurdodau yn gweithredu ar ei chyfer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trosglwyddo cyflogeion perthnasol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

4.  Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai perthnasol ac awdurdod iechyd Cymreig ei drin fel pe bai wedi cael ei wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trosglwyddo cyflogeion gweddilliol i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig

5.  Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai gweddilliol ac awdurdod iechyd Cymreig ei drin fel pe bai'n gontract cyflogaeth am gyfnod penodedig a i ddod i ben ar 31 Mawrth 2004 gafodd ei wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai gweddilliol a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.

Trosglwyddo cyflogeion Cynllun Cyflogaeth Estynedig o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig

6.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i gyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig na therfynwyd ei gontract cyflogaeth (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall).

(2Yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis ar ôl y dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a Bwrdd Iechyd Lleol Powys, os cafodd y cyflogai hwnnw gynnig cyflogaeth a'i derbyn —

(a)gan unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol (heblaw Bwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig); neu

(b)gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

ei drin fel pe bai wedi cael ei wneud yn wreiddiol rhwng cyflogai y Cynllun Cyflogaeth Estynedig a Bwrdd Iechyd Lleol o'r fath neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diddymu Awdurdodau Iechyd Cymreig

7.  Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, diddymir pob un o'r awdurdodau iechyd Cymreig.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr awdurdodau iechyd Cymreig

8.  Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau awdurdodau iechyd Cymreig na throsglwyddwyd i Fwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2003(5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diddymiad canlyniadol Gorchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996

9.  Diddymir Gorchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2003

Erthygl 2

YR ATODLEN

Yr awdurdodau iechyd Cymreig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt yw —

  • Bro Tâf

  • Dyfed Powys

  • Gwent

  • Morgannwg

  • North Wales Gogledd Cymru

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

O dan adran 27(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38), mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i drosglwyddo iddo'i hun drwy orchymyn unrhyw un o swyddogaethau awdurdod iechyd Cymreig neu'r cyfan ohonynt. O dan adran 27(5)(a) o Ddeddf 1998, pan fo gorchymyn yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl swyddogaethau awdurdod iechyd ar gyfer yr ardal gyfan y mae'r awdurdod hwnnw yn gweithredu mewn perthynas â hi, gall y Cynulliad ddiddymu'r awdurdod hwnnw.

O dan adran 27(8) o Ddeddf 1998, caiff y Cynulliad wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau awdurdod iechyd Cymreig.

Roedd y ddogfen strategaeth “Gwella Iechyd yng Nghymru” a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001 yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum awdurdod iechyd a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru o 31 Mawrth 2003 ymlaen, ac i ddirprwyo eu swyddogaethau i Fyrddau Iechyd Lleol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo holl swyddogaethau'r pum awdurdod iechyd Cymreig i'r Cynulliad, ac yn diddymu'r pum awdurdod. Mae hefyd yn effeithio ar drosglwyddo staff penodol a gyflogir gan yr awdurdodau iechyd naill ai'n uniongyrchol i'r Cynulliad, neu o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig (“EES”) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Yn ystod y cyfnod o 12 mis ar ôl y dyddiad trosglwyddo, gellir trosglwyddo'r staff hynny a drosglwyddodd i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig ond na chawsant gyflogaeth arall, i swyddi mewn Bwrdd Iechyd Lleol neu yn y Cynulliad os cynigir swydd iddynt ac maent yn ei derbyn.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau nas trosglwyddwyd yn benodol i Fyrddau Iechyd Lleol.

Bydd y swyddogaethau a drosglwyddir i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau) yn cael eu dirprwyo i Fyrddau Iechyd Lleol gan reoliadau a wnaed o dan adran 16BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49), fel y cafodd ei mewnosod gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17). Am gwmpas y swyddogaethau a ddirprwywyd i Fyrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, Cy.20).

Caiff Byrddau Iechyd Lleol eu sefydlu o dan orchymyn a wneir o dan adran 16BA o Ddeddf 1977, fel y'i mewnosodwyd gan adran 6 o Ddeddf 2002 (gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).

(2)

Sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49)gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu)(Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).

(3)

Sefydlir Byrddau Iechyd Lleol drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49)gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources