xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
25 Mawrth 2003
Yn dod i rym
6 Ebrill 2003
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 6 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Ddeddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996.
mae i “Credyd Treth i Blant” a “Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio” yr ystyr a roddir i “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002(3).
ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(4).
3. Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(iv) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol —
(a)pan fydd gan y rhiant â hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a
(b)pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant(5).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, bod plentyn â hawl i gael cinio ysgol yn rhad ac am ddim pan fydd ei riant yn derbyn Credyd Treth i Blant yn yr amgylchiadau diffiniedig.
Yr amgylchiadau diffiniedig yw nad yw'r rhiant yn derbyn Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a rhaid bod y dyfarniad o Credyd Treth i Blant wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm sydd wedi ei bennu at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002, (sef £13,230 ar hyn o bryd).
1996 p.56. Amnewidir adran 512 yn rhagolygol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a mewnosodir adrannau 512ZA a 512ZB. Mae rhannau perthnasol adran 201 i ddod i rym ar 31 Mawrth 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3185)(Cy.301) (C.107) Am ddiffiniad o “prescribed” gweler adran 512(b) fel y'i cymhwysir gan adran 512ZB(5).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.
OS 2002/2006. Mae incwm blynyddol person sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â'r rheoliadau hynny yn cynnwys incwm partner y person hwnnw os oes cais ay y cyd i dderbyn Credyd Treth i Blant.
£13,230 yw'r swm a benwyd mewn perthynas a Credyd Treth i Blant o 6 Ebrill 2003 ymlaen, yn sgil rheoliad 3(3) o Reoliadau Credydau Treth (Trothwyau Incwm a Phennu Cyfraddau) 2002 (O.S. 2002/2008).