2003 Rhif 895 (Cy.115)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 173(1), (2) a (4), 175(1A), 177(1)(c), 177(2), 178(1) a 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2 a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100(1), (4), (5), (6) a (7) a 105(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20003(ar ôl ymgynghori â'r cynrychiolwyr llywodraeth leol hynny a'r personau eraill y mae'n barnu bod angen ymgynghori â hwy).

RHAN ICyffredinol

Enw, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor cymuned;

  • ystyr “blwyddyn” (“year”) yw deuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “Rheoliadau 1991” (“the 1991 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 fel y'u diwygiwyd4;

  • ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 20015.

Cyrff ac awdurdodau perthnasol a ragnodwyd3

Rhagnodir Cynghorau Cymuned yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) o Ddeddf 2000.

RHAN IILwfansau Cynghorwyr

Dehongli4

1

Dehonglir cyfeiriadau yn y Rhan hon at aelod o awdurdod sy'n gynghorydd fel cyfeiriadau at aelod etholedig o awdurdod a dehonglir cyfeiriadau at aelod nad yw'n gynghorydd fel cyfeiriadau at aelod sy'n aelod cyfetholedig o awdurdod.

2

At ddibenion y Rhan hon bydd cyfnod swydd aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd yn dechrau ar y dyddiad y mae'r aelod hwnnw'n gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd honno o dan adran 83(4) o Ddeddf 1972.

Lwfansau presenoldeb5

1

Y swm a ragnodwyd at ddibenion adran 173(1) o Ddeddf 1972 (Lwfans presenoldeb) yw £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac i'r diben hwn mae cyfnod o 24 awr yn dechrau am 3am.

2

Ni fydd gan aelod hawl i daliad o fwy nag un lwfans presenoldeb mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o 24 awr.

3

Ni fydd gan aelod hawl i daliad o lwfans presenoldeb—

a

o ran dyletswydd wedi'i chymeradwyo y mae gan yr aelod hwnnw hawl i daliad lwfans colled ariannol mewn perthynas â hi o dan adran 173 o Ddeddf 1972; neu

b

pe bai taliad o'r fath yn groes i ddarpariaeth a wneir drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad.

Lwfans colled ariannol6

Y swm a ragnodir at ddibenion adran 173(4) o Ddeddf 1972 (lwfans colled ariannol) yw —

a

am gyfnod nad yw'n fwy na 4 awr, £30.05;

b

am gyfnod sy'n fwy na 4 awr ond nad yw'n fwy na 24 awr, £60.11;

c

am gyfnod sydd yn fwy na 24 awr, y cyfanswm o £60.11 a'r swm hwnnw a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) fel y bo'n briodol i nifer yr oriau y mae'r cyfnod yn fwy na 24 awr.

RHAN IIILwfansau — Darpariaeth Bellach

Swm y lwfansau a.y.y.b.7

Mewn perthynas â lwfansau o dan Ran II rhaid i awdurdod ddarparu, yn ddarostyngedig i Reoliadau 5 a 6, ar gyfer addasu'r lwfansau hynny'n flynyddol o 1 Ebrill ym mhob blwyddyn a hynny'n hafal i'r ffigur a gyhoeddir ar gyfer y flwyddyn flaenorol fel y cynnydd canrannol (os o gwbl) yn y mynegai i'r Cyflog Cyfartalog i Wrywod Nad Ydynt yn Gweithio â Dwylo yn yr Archwiliad Enillion Newydd a gyhoeddir yn flynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dewisiadau8

Caiff aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod, ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o hawl yr aelod hwnnw i gael lwfans o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN IVLwfansau Eraill

Diffiniad o “ddyletswydd wedi'i chymeradwyo”9

1

Yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a eithrir gan baragraff (2), at ddibenion adrannau 173, 175 a 176 o Ddeddf 1972 ystyr “dyletswydd wedi'i chymeradwyo” yw —

a

unrhyw rai o'r dyletswyddau canlynol —

i

presenoldeb mewn cyfarfod o'r awdurdod neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod neu o unrhyw gorff arall y mae'r awdurdod yn penodi neu'n enwebu iddo, neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o gorff o'r fath;

ii

presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall yr awdurdodir ei gynnal gan yr awdurdod, neu bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod, neu gyd-bwyllgor o'r awdurdod ac un awdurdod arall neu fwy, neu is-bwyllgor o gyd-bwyllgor o'r fath, ar yr amod —

aa

os yw'r awdurdod wedi'i rannu yn ddau grŵp gwleidyddol neu fwy, y mae'n gyfarfod y gwahoddwyd aelodau o ddau grŵp o'r fath o leiaf iddo, neu

bb

os na rannwyd yr awdurdod yn y fath fodd, y mae'n gyfarfod y gwahoddwyd o leiaf ddau aelod o'r awdurdod iddo;

iii

presenoldeb mewn cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohono; a

iv

presenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.

b

unrhyw ddyletswyddau yr ymgymerir â hwy ar ran yr awdurdod —

i

yn unol ag unrhyw Reol Sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan fydd dogfennau tendro yn cael eu hagor;

ii

mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth yr awdurdod a roddwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad ac sy'n rhoi'r pŵer i'r awdurdod, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo, archwilio neu awdurdodi archwiliad o dir ac adeiladau; ac

c

unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir felly, yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu is-bwyllgorau, neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o'r fath.

2

Y dyletswyddau a eithrir gan y paragraff hwn yw'r dyletswyddau hynny y mae aelod yn derbyn tâl amdanynt heblaw o dan Ran II.

Lwfansau i fynd i gynadleddau a chyfarfodydd — cyfyngiadau ariannol ar lwfansau o dan adran 175 o Ddeddf 197210

Rhaid i unrhyw daliad o lwfans o dan adran 175 o Ddeddf 1972 sydd o natur lwfans presenoldeb (heblaw taliad o'r fath i aelod sydd yn gynghorydd gan awdurdod y mae Rhan II o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo) beidio â bod yn fwy na £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac i'r diben hwn mae cyfnod o 24 awr yn dechrau am 3am.

Lwfansau teithio a chynhaliaeth11

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau drwy lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo fel aelod o'r awdurdod.

2

Ni fydd cyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn car modur preifat yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol am y flwyddyn honno sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr amod, os bydd cyfradd unrhyw lwfans o'r fath ar y diwrnod yn union cyn y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym eisoes yn fwy na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff cyfradd y lwfans hwnnw barhau ar y lefel honno ond ni chaiff ei chynyddu hyd nes y bydd cyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r hyn a delir gan yr awdurdod.

3

Rhaid i dderbynebau priodol gyd-fynd ag unrhyw hawliad am daliad lwfansau teithio a chynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (gan eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) sy'n profi treuliau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y gall awdurdod benderfynu arnynt.

4

Ni fydd gan aelod yr hawl i unrhyw daliad o dan y Rheoliad hwn mewn perthynas â chyflawni, fel aelod o'r fath, ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn y gymuned, neu yn achos cymuned sy'n un o grŵ p o dan gyngor cymuned, o fewn ardal y grŵ p hwnnw.

RHAN VTrefniadau Gweinyddol

Osgoi dyblygu12

1

Rhaid i hawliad am daliad drwy lwfans presenoldeb, lwfans colled ariannol, lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd, lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth gynnwys datganiad, neu fod datganiad yn cyd-fynd â'r hawliad, wedi'i lofnodi gan yr aelod nad yw wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.

2

Ni wneir taliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth o adran 176 o Ddeddf 1972 mewn perthynas â mater y gwnaed taliad yn ei gylch i'r person hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hyn.

3

Ni fydd gan berson sydd, yn y cyfnod a grybwyllir yn rheoliad 5 neu reoliad 6 —

a

yn cyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo neu ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo fel aelod o fwy nag un corff,

b

yn cyflawni dwy ddyletswydd wedi'i chymeradwyo neu fwy i'r un corff, neu

c

â hawl i lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 ac i daliad o lwfans gymharol o dan unrhyw ddeddfiad arall,

yr hawl i daliadau o dan yr adran honno sydd yn eu cyfanswm yn fwy na'r swm a ragnodir gan reoliadau 5 neu 6 fel y bo'n briodol am y cyfnod hwnnw.

4

Caiff corff sy'n talu lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 i berson am ddyletswydd wedi'i chymeradwyo fel y'i disgrifir ym mharagraff (3) ostwng swm y lwfans hwnnw gan swm unrhyw lwfans arall o dan adran 173 neu unrhyw lwfans cymharol o dan unrhyw ddeddfiad a delir gan gorff arall.

Cofnodion o'r lwfansau13

1

Rhaid i bob awdurdod gadw cofnod o daliadau a wneir ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i gofnod o'r fath nodi enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad a rhaid trefnu ei fod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr “local government elector” yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.

3

Caiff person sydd â hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) ofyn am gopi o unrhyw ran ohono ar ôl talu ffi resymol a all fod yn ofynnol gan yr awdurdod.

Cyhoeddusrwydd14

Cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i bob awdurdod wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn perthynas â lwfans presenoldeb a lwfans colled ariannol.

RHAN VIDirymiadau ac arbedion

Dirymiadau ac arbedion15

1

Bydd Rheoliadau 1991 a Rheoliadau 2001 yn parhau i gael effaith heb ragfarn i adran 16 o Ddeddf Dehongli 19786, mewn perthynas â hawliadau a wneir am lwfansau neu daliadau eraill mewn perthynas â dyletswyddau a gyflawnwyd cyn 1 Ebrill 2003.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (1) dirymir Rheoliadau 1991 a Rheoliadau 2001 drwy hyn i'r graddau yr oeddent yn gymwys i gynghorau cymuned.

3

Ni fydd adran 174 o Ddeddf 1972 yn gymwys i gynghorau cymuned.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 173, 175, 177 a 178 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn darparu pwerau, yn eu trefn, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud y canlynol:

  • rhagnodi swm mewn perthynas â lwfans presenoldeb neu lwfans colled ariannol sy'n daladwy am gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo;

  • rhagnodi corff y mae adran 175 (Lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd) yn gymwys iddo;

  • pennu dyletswyddau mewn perthynas ag aelod corff at ddibenion diffinio “approved duty” yn adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972;

  • gwneud rheoliadau ynghylch y dull y mae adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972 i'w gweinyddu.

Mae'r pwerau hyn bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, o ran lwfansau sy'n daladwy i aelodau o gynghorau cymuned a lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau awdurdodau y gall eu rhagnodi.

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi cynghorau cymuned yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1) o Ddeddf 2000.

Mae Rheoliad 5 yn rhagnodi £32.46 at ddibenion adran 173(1) o Ddeddf 1972 (Lwfans presenoldeb) fel y mwyafswm sy'n daladwy am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac yn cyfyngu nifer y taliadau hynny i un mewn unrhyw gyfnod o 24 awr.

Gwaherddir talu lwfans presenoldeb hefyd pan fo gan aelod yr hawl i lwfans colled ariannol (yn unol ag adran 173 o Ddeddf 1972) neu pan fyddai'r taliad hwnnw'n groes i unrhyw ddeddfiad.

Mae Rheoliad 6 yn rhagnodi symiau at ddibenion adran 173(4) o Ddeddf 1972 (Lwfans colled ariannol):

a

£30.05 am gyfnod nad yw'n fwy na phedair awr;

b

£60.11 am gyfnod sy'n fwy na phedair awr ond nad yw'n fwy na phedair awr ar hugain;

c

£60.11 plws y swm hwnnw sy'n daladwy o dan (a) neu (b) fel y bo'n briodol am gyfnod sy'n fwy na phedair awr ar hugain.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol (a hynny'n ddarostyngedig i Reoliadau 5 a 6) i awdurdodau wneud darpariaeth mewn perthynas â lwfansau o dan Ran II ar gyfer addasu'n flynyddol y lwfansau hynny (a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill ym mhob blwyddyn) drwy gyfeirio at y ffigur a gyhoeddir ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn y mynegai i'r Cyflog Cyfartalog i Wrywod Nad Ydynt yn Gweithio â Dwylo yn yr Archwiliad Enillion Newydd a gyhoeddir yn flynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Rheoliad 8 yn darparu i aelod ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 9 yn nodi'r dyletswyddau hynny sy'n “ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo” at ddibenion adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972.

Mae Rheoliad 10 yn gosod cyfyngiadau ariannol ar lwfansau o dan adran 175 o Ddeddf 1972 (lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd) drwy gyfyngu ar yr uchafswm sy'n daladwy i £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na phedair awr ar hugain.

Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer talu costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na fyddant yn fwy na'r cyfraddau a geir gan Aelodau'r Cynulliad. Eithriad i hyn yw pan fo'r cyfraddau y mae awdurdod yn eu talu yn fwy, ar y diwrnod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn amgylchiadau o'r fath, caiff y cyfraddau a delir gan yr awdurdod barhau ar y lefel honno ond ni cheir eu cynyddu hyd nes y bydd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r lwfans a delir gan yr awdurdod. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau sy'n berthnasol i deithio mewn cerbyd modur) i'w gwneud ar sail “wirioneddol” a rhaid bod derbynebau perthnasol yn cyd-fynd â hwy am y costau a dynnwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y penderfynir arnynt gan awdurdod. Ni all aelod hawlio lwfansau o dan Reoliad 11 pan gyflawnir unrhyw ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn eu cymuned neu ardal eu cyngor cymuned fel y bo'n briodol.

Mae Rheoliad 12 yn darparu bod datganiad i gyd-fynd â phob hawliad a wneir am lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol nad yw'r hawlydd wedi nac yn bwriadu gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo. Mae hefyd yn atal taliadau o dan adran 176 o Ddeddf 1972 os gwneir taliadau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol. Gellir cael copïau o'r wybodaeth drwy dalu ffi resymol i'r awdurdod.

Yn unol â Rheoliad 14, cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion o'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â lwfans presenoldeb a sylfaenol a lwfans colled ariannol.

Mae Rheoliad 15 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 (“Rheoliadau 1991”) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliadau am ddyletswyddau a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2003. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn dirymir Rheoliadau 1991 a 2001. Mae Rheoliad 15 yn datgymhwyso adran 174 o Ddeddf 1972 fel y mae'n gymwys i Gymru.