Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 895 (Cy.115)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 173(1), (2) a (4), 175(1A), 177(1)(c), 177(2), 178(1) a 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100(1), (4), (5), (6) a (7) a 105(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3)(ar ôl ymgynghori â'r cynrychiolwyr llywodraeth leol hynny a'r personau eraill y mae'n barnu bod angen ymgynghori â hwy).

RHAN ICyffredinol

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor cymuned;

ystyr “blwyddyn” (“year”) yw deuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “Rheoliadau 1991” (“the 1991 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 fel y'u diwygiwyd(4);

ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001(5).

Cyrff ac awdurdodau perthnasol a ragnodwyd

3.  Rhagnodir Cynghorau Cymuned yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) o Ddeddf 2000.

RHAN IILwfansau Cynghorwyr

Dehongli

4.—(1Dehonglir cyfeiriadau yn y Rhan hon at aelod o awdurdod sy'n gynghorydd fel cyfeiriadau at aelod etholedig o awdurdod a dehonglir cyfeiriadau at aelod nad yw'n gynghorydd fel cyfeiriadau at aelod sy'n aelod cyfetholedig o awdurdod.

(2At ddibenion y Rhan hon bydd cyfnod swydd aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd yn dechrau ar y dyddiad y mae'r aelod hwnnw'n gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd honno o dan adran 83(4) o Ddeddf 1972.

Lwfansau presenoldeb

5.—(1Y swm a ragnodwyd at ddibenion adran 173(1) o Ddeddf 1972 (Lwfans presenoldeb) yw £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac i'r diben hwn mae cyfnod o 24 awr yn dechrau am 3am.

(2Ni fydd gan aelod hawl i daliad o fwy nag un lwfans presenoldeb mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o 24 awr.

(3Ni fydd gan aelod hawl i daliad o lwfans presenoldeb—

(a)o ran dyletswydd wedi'i chymeradwyo y mae gan yr aelod hwnnw hawl i daliad lwfans colled ariannol mewn perthynas â hi o dan adran 173 o Ddeddf 1972; neu

(b)pe bai taliad o'r fath yn groes i ddarpariaeth a wneir drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad.

Lwfans colled ariannol

6.  Y swm a ragnodir at ddibenion adran 173(4) o Ddeddf 1972 (lwfans colled ariannol) yw —

(a)am gyfnod nad yw'n fwy na 4 awr, £30.05;

(b)am gyfnod sy'n fwy na 4 awr ond nad yw'n fwy na 24 awr, £60.11;

(c)am gyfnod sydd yn fwy na 24 awr, y cyfanswm o £60.11 a'r swm hwnnw a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) fel y bo'n briodol i nifer yr oriau y mae'r cyfnod yn fwy na 24 awr.

RHAN IIILwfansau — Darpariaeth Bellach

Swm y lwfansau a.y.y.b.

7.  Mewn perthynas â lwfansau o dan Ran II rhaid i awdurdod ddarparu, yn ddarostyngedig i Reoliadau 5 a 6, ar gyfer addasu'r lwfansau hynny'n flynyddol o 1 Ebrill ym mhob blwyddyn a hynny'n hafal i'r ffigur a gyhoeddir ar gyfer y flwyddyn flaenorol fel y cynnydd canrannol (os o gwbl) yn y mynegai i'r Cyflog Cyfartalog i Wrywod Nad Ydynt yn Gweithio â Dwylo yn yr Archwiliad Enillion Newydd a gyhoeddir yn flynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dewisiadau

8.   Caiff aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod, ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o hawl yr aelod hwnnw i gael lwfans o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN IVLwfansau Eraill

Diffiniad o “ddyletswydd wedi'i chymeradwyo”

9.—(1Yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a eithrir gan baragraff (2), at ddibenion adrannau 173, 175 a 176 o Ddeddf 1972 ystyr “dyletswydd wedi'i chymeradwyo” yw —

(a)unrhyw rai o'r dyletswyddau canlynol —

(i)presenoldeb mewn cyfarfod o'r awdurdod neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod neu o unrhyw gorff arall y mae'r awdurdod yn penodi neu'n enwebu iddo, neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o gorff o'r fath;

(ii)presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall yr awdurdodir ei gynnal gan yr awdurdod, neu bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod, neu gyd-bwyllgor o'r awdurdod ac un awdurdod arall neu fwy, neu is-bwyllgor o gyd-bwyllgor o'r fath, ar yr amod —

(aa)os yw'r awdurdod wedi'i rannu yn ddau grŵp gwleidyddol neu fwy, y mae'n gyfarfod y gwahoddwyd aelodau o ddau grŵp o'r fath o leiaf iddo, neu

(bb)os na rannwyd yr awdurdod yn y fath fodd, y mae'n gyfarfod y gwahoddwyd o leiaf ddau aelod o'r awdurdod iddo;

(iii)presenoldeb mewn cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohono; a

(iv)presenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.

(b)unrhyw ddyletswyddau yr ymgymerir â hwy ar ran yr awdurdod —

(i)yn unol ag unrhyw Reol Sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan fydd dogfennau tendro yn cael eu hagor;

(ii)mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth yr awdurdod a roddwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad ac sy'n rhoi'r pŵer i'r awdurdod, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo, archwilio neu awdurdodi archwiliad o dir ac adeiladau; ac

(c)unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir felly, yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu is-bwyllgorau, neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o'r fath.

(2Y dyletswyddau a eithrir gan y paragraff hwn yw'r dyletswyddau hynny y mae aelod yn derbyn tâl amdanynt heblaw o dan Ran II.

Lwfansau i fynd i gynadleddau a chyfarfodydd — cyfyngiadau ariannol ar lwfansau o dan adran 175 o Ddeddf 1972

10.  Rhaid i unrhyw daliad o lwfans o dan adran 175 o Ddeddf 1972 sydd o natur lwfans presenoldeb (heblaw taliad o'r fath i aelod sydd yn gynghorydd gan awdurdod y mae Rhan II o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo) beidio â bod yn fwy na £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac i'r diben hwn mae cyfnod o 24 awr yn dechrau am 3am.

Lwfansau teithio a chynhaliaeth

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau drwy lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo fel aelod o'r awdurdod.

(2Ni fydd cyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn car modur preifat yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol am y flwyddyn honno sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr amod, os bydd cyfradd unrhyw lwfans o'r fath ar y diwrnod yn union cyn y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym eisoes yn fwy na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff cyfradd y lwfans hwnnw barhau ar y lefel honno ond ni chaiff ei chynyddu hyd nes y bydd cyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r hyn a delir gan yr awdurdod.

(3Rhaid i dderbynebau priodol gyd-fynd ag unrhyw hawliad am daliad lwfansau teithio a chynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (gan eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) sy'n profi treuliau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y gall awdurdod benderfynu arnynt.

(4Ni fydd gan aelod yr hawl i unrhyw daliad o dan y Rheoliad hwn mewn perthynas â chyflawni, fel aelod o'r fath, ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn y gymuned, neu yn achos cymuned sy'n un o grŵ p o dan gyngor cymuned, o fewn ardal y grŵ p hwnnw.

RHAN VTrefniadau Gweinyddol

Osgoi dyblygu

12.—(1Rhaid i hawliad am daliad drwy lwfans presenoldeb, lwfans colled ariannol, lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd, lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth gynnwys datganiad, neu fod datganiad yn cyd-fynd â'r hawliad, wedi'i lofnodi gan yr aelod nad yw wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.

(2Ni wneir taliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth o adran 176 o Ddeddf 1972 mewn perthynas â mater y gwnaed taliad yn ei gylch i'r person hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(3Ni fydd gan berson sydd, yn y cyfnod a grybwyllir yn rheoliad 5 neu reoliad 6 —

(a)yn cyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo neu ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo fel aelod o fwy nag un corff,

(b)yn cyflawni dwy ddyletswydd wedi'i chymeradwyo neu fwy i'r un corff, neu

(c)â hawl i lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 ac i daliad o lwfans gymharol o dan unrhyw ddeddfiad arall,

yr hawl i daliadau o dan yr adran honno sydd yn eu cyfanswm yn fwy na'r swm a ragnodir gan reoliadau 5 neu 6 fel y bo'n briodol am y cyfnod hwnnw.

(4Caiff corff sy'n talu lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 i berson am ddyletswydd wedi'i chymeradwyo fel y'i disgrifir ym mharagraff (3) ostwng swm y lwfans hwnnw gan swm unrhyw lwfans arall o dan adran 173 neu unrhyw lwfans cymharol o dan unrhyw ddeddfiad a delir gan gorff arall.

Cofnodion o'r lwfansau

13.—(1Rhaid i bob awdurdod gadw cofnod o daliadau a wneir ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i gofnod o'r fath nodi enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad a rhaid trefnu ei fod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr “local government elector” yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.

(3Caiff person sydd â hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) ofyn am gopi o unrhyw ran ohono ar ôl talu ffi resymol a all fod yn ofynnol gan yr awdurdod.

Cyhoeddusrwydd

14.  Cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i bob awdurdod wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn perthynas â lwfans presenoldeb a lwfans colled ariannol.

RHAN VIDirymiadau ac arbedion

Dirymiadau ac arbedion

15.—(1Bydd Rheoliadau 1991 a Rheoliadau 2001 yn parhau i gael effaith heb ragfarn i adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(6), mewn perthynas â hawliadau a wneir am lwfansau neu daliadau eraill mewn perthynas â dyletswyddau a gyflawnwyd cyn 1 Ebrill 2003.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1) dirymir Rheoliadau 1991 a Rheoliadau 2001 drwy hyn i'r graddau yr oeddent yn gymwys i gynghorau cymuned.

(3Ni fydd adran 174 o Ddeddf 1972 yn gymwys i gynghorau cymuned.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 173, 175, 177 a 178 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn darparu pwerau, yn eu trefn, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud y canlynol:

  • rhagnodi swm mewn perthynas â lwfans presenoldeb neu lwfans colled ariannol sy'n daladwy am gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo;

  • rhagnodi corff y mae adran 175 (Lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd) yn gymwys iddo;

  • pennu dyletswyddau mewn perthynas ag aelod corff at ddibenion diffinio “approved duty” yn adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972;

  • gwneud rheoliadau ynghylch y dull y mae adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972 i'w gweinyddu.

Mae'r pwerau hyn bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, o ran lwfansau sy'n daladwy i aelodau o gynghorau cymuned a lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau awdurdodau y gall eu rhagnodi.

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi cynghorau cymuned yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1) o Ddeddf 2000.

Mae Rheoliad 5 yn rhagnodi £32.46 at ddibenion adran 173(1) o Ddeddf 1972 (Lwfans presenoldeb) fel y mwyafswm sy'n daladwy am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac yn cyfyngu nifer y taliadau hynny i un mewn unrhyw gyfnod o 24 awr.

Gwaherddir talu lwfans presenoldeb hefyd pan fo gan aelod yr hawl i lwfans colled ariannol (yn unol ag adran 173 o Ddeddf 1972) neu pan fyddai'r taliad hwnnw'n groes i unrhyw ddeddfiad.

Mae Rheoliad 6 yn rhagnodi symiau at ddibenion adran 173(4) o Ddeddf 1972 (Lwfans colled ariannol):

(a)£30.05 am gyfnod nad yw'n fwy na phedair awr;

(b)£60.11 am gyfnod sy'n fwy na phedair awr ond nad yw'n fwy na phedair awr ar hugain;

(c)£60.11 plws y swm hwnnw sy'n daladwy o dan (a) neu (b) fel y bo'n briodol am gyfnod sy'n fwy na phedair awr ar hugain.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol (a hynny'n ddarostyngedig i Reoliadau 5 a 6) i awdurdodau wneud darpariaeth mewn perthynas â lwfansau o dan Ran II ar gyfer addasu'n flynyddol y lwfansau hynny (a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill ym mhob blwyddyn) drwy gyfeirio at y ffigur a gyhoeddir ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn y mynegai i'r Cyflog Cyfartalog i Wrywod Nad Ydynt yn Gweithio â Dwylo yn yr Archwiliad Enillion Newydd a gyhoeddir yn flynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Rheoliad 8 yn darparu i aelod ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 9 yn nodi'r dyletswyddau hynny sy'n “ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo” at ddibenion adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972.

Mae Rheoliad 10 yn gosod cyfyngiadau ariannol ar lwfansau o dan adran 175 o Ddeddf 1972 (lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd) drwy gyfyngu ar yr uchafswm sy'n daladwy i £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na phedair awr ar hugain.

Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer talu costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na fyddant yn fwy na'r cyfraddau a geir gan Aelodau'r Cynulliad. Eithriad i hyn yw pan fo'r cyfraddau y mae awdurdod yn eu talu yn fwy, ar y diwrnod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn amgylchiadau o'r fath, caiff y cyfraddau a delir gan yr awdurdod barhau ar y lefel honno ond ni cheir eu cynyddu hyd nes y bydd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r lwfans a delir gan yr awdurdod. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau sy'n berthnasol i deithio mewn cerbyd modur) i'w gwneud ar sail “wirioneddol” a rhaid bod derbynebau perthnasol yn cyd-fynd â hwy am y costau a dynnwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y penderfynir arnynt gan awdurdod. Ni all aelod hawlio lwfansau o dan Reoliad 11 pan gyflawnir unrhyw ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn eu cymuned neu ardal eu cyngor cymuned fel y bo'n briodol.

Mae Rheoliad 12 yn darparu bod datganiad i gyd-fynd â phob hawliad a wneir am lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol nad yw'r hawlydd wedi nac yn bwriadu gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo. Mae hefyd yn atal taliadau o dan adran 176 o Ddeddf 1972 os gwneir taliadau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol. Gellir cael copïau o'r wybodaeth drwy dalu ffi resymol i'r awdurdod.

Yn unol â Rheoliad 14, cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion o'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â lwfans presenoldeb a sylfaenol a lwfans colled ariannol.

Mae Rheoliad 15 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 (“Rheoliadau 1991”) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliadau am ddyletswyddau a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2003. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn dirymir Rheoliadau 1991 a 2001. Mae Rheoliad 15 yn datgymhwyso adran 174 o Ddeddf 1972 fel y mae'n gymwys i Gymru.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

O.S. 1991/351, a ddiwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2781 (Cy.234)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources