Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi ei ailargraffu i gywiro'r hyn a gafodd ei hepgor o'r tabl gorchmynion cychwyn yn y nodyn esboniadol ac fe'i dosberthir yn rhad ac am ddim i bawb y mae'n hysbys iddynt ei dderbyn.

2003 Rhif 939 (Cy.123) (C.50)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20011, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003.

2

Yn y Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel y “Ddeddf”.

3

Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y diwrnod penodedig2

1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.

D. Elis-ThomasLlywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

ATODLEN 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2003

Erthygl 2

Darpariaethau'r Ddeddf

Pwnc

Adran 53

Diystyru adnoddau wrth benderfynu'r angen am lety preswyl

Adran 54 i'r graddau na chafodd ei dwyn i rym eisoes gan adran 70(2)

Preswylydd a.y.y.b. yn ariannu llety drutach

Adran 55

Pŵer i awdurdodau lleol arwystlo tir yn lle cymryd cyfraniadau

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (y “Ddeddf”) mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2003 fydd y diwrnod y mae adrannau canlynol y Ddeddf yn dod i rym yng Nghymru. Mae'r darpariaethau yn caniatáu newidiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn codi tâl am lety preswyl o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae adran 53 yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau i benderfynu pa ran o adnoddau person a gaiff eu diystyru wrth benderfynu a oes angen llety arno neu beidio.

Mae adran 54 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n galluogi i daliadau ychwanegol gael eu gwneud, gan neu ar ran preswylydd, ar gyfer llety sy'n costio mwy nag a fyddai awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei dalu.

Mae adran 55 yn caniatáu i awdurdod lleol wneud cytundeb (“cytundeb talu gohiriedig”) â pherson y mae angen llety arno i adael i'r person hwnnw beidio â gwneud taliadau am y llety ond i gronni dyled a gaiff ei sicrhau drwy arwystl ar gartref y person hwnnw.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Ddarpariaeth

Dyddiad Cychwyn

O.S. Rhif

Adran 3

1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol)

2002/1475

Adran 5

1 Gorffennaf 2002

2002/1475

Adran 11

1 Rhagfyr 2002

2002/1475

Adran 13

17 Mawrth 2003

2003/713

Adran 16

26 Awst 2002

2002/1919

Adran 19 — 26

1 Gorffennaf 2002

2002/1475

Adran 27

26 Awst 2002

2002/1919

Adran 28 — 39

1 Gorffennaf 2002

2002/1475

Adran 41 — 43

1 Gorffennaf 2002

2002/1475

Adran 49

3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol)

2001/3807

Adran 50(1)

8 Ebrill 2002

2001/3752

Adran 50 (2) i (10)

19 Rhagfyr 2001

2001/3807

Adran 51

8 Tachwedd 2001

2001/3752

Adran 52

8 Tachwedd 2001

2001/3752

Adran 67(1) ac Atodlen 5

1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol)

2002/1095, 2002/1475 a 2002/1919

Adran 67(2) ac Atodlen 6

1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol)

2002/1095, 2002/1312, 2002/1475 a 2002/1919

Atodlen 2

1 Gorffennaf 2002

2002/1475

Atodlen 3

1 Gorffennaf 2002

2002/1475

Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36) ac O.S. 2002/2363 (C.77).