Search Legislation

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Cyfleustodau) (Gwerth Ardrethol) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 944 (Cy.125)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Cyfleustodau) (Gwerth Ardrethol) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

27 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Cyfleustodau) (Gwerth Ardrethol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Gorchymyn BG ” (“the BG Order”) yw Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000(3).

ystyr “Gorchymyn Railtrack” (“the Railtrack Order”) yw Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000(4)).

ystyr “Gorchymyn yr Ymgymerwyr Dŵr” (“the Water Undertakers Order”) yw Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000(5).

Diwygio Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵ r (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000

2.  Yn y Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr —

(a)yn erthygl 2(1) ar ôl y diffiniad o “y fformwla safonol” mewnosoder “ystyr “y rhestr ardrethu ganolog” (“the central rating list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig canolog ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000;”;

(b)yn erthygl 5 ar ôl y dyddiad “1 Ebrill 2000” lle mae'n ymddangos gyntaf mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ardrethu ganolog mewn grym ar ei chyfer”;

(c)yn erthygl 7(1) ar ôl y gair “flwyddyn” lle mae'n ymddangos gyntaf mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ardrethu ganolog mewn grym ar ei chyfer”; a

(ch)yn erthygl 7(2) ar ôl y gair “flwyddyn” lle mae'n ymddangos gyntaf mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ardrethu ganolog mewn grym ar ei chyfer”.

Diwygio Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000

3.  Yng Ngorchymyn BG yn erthygl 3 yn lle'r geiriau “sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000” mewnosoder y geiriau “y mae rhestr ardrethu annomestig canolog Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 mewn grym ar ei chyfer”.

Diwygio Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000

4.  Yng Ngorchymyn Railtrack —

(a)yn erthygl 2 yn y diffiniad o “rhestr ganolog” hepgorer y geiriau “neu ar ôl hynny”; a

(b)yn erthygl 5(1) ar ôl y gair “flwyddyn” mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ganolog mewn grym ar ei chyfer”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

27 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan baragraff 3(2) of Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, drwy Orchymyn ddarparu yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos yn rhestr ardrethu canolog Cymru na fydd rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu, a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2C o'r Atodlen honno, yn gymwys ac yn lle hynny eu gwerth ardrethol fydd yr hyn a bennir yn y Gorchymyn neu yr hyn a benderfynir yn unol â'r rheolau a ragnodwyd.

O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988, gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Orchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000, Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000. Yr oedd y tri Gorchymyn hwn yn datgymhwyso rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu eiddo yng Nghymru ym mherchenogaeth yr ymgymerwyr perthnasol a rhoi yn eu lle ddulliau amgen o gyfrifo eu gwerthoedd ardrethol perthnasol.

O dan adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf 1988 lluniwyd rhestr ardrethu annomestig lleol a chanolog yn eu tro ar 1 Ebrill 1990 a rhaid llunio rhestr ar 1 Ebrill ym mhob pumed blwyddyn ar ôl y dyddiad hwnnw. Gosodir y dyddiad erbyn pryd y mae'r gwerth ardrethol i'w benderfynu gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 ac o dan y ddarpariaeth hon mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi darparu, yn rhinwedd Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002 (“Gorchymyn 2002”), mai 1 Ebrill 2003 fydd y dyddiad prisio at ddibenion rhestrau ardrethu 2005.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵ r (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000, Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 i gyfyngu ar eu cymhwysiad i restrau ardrethu annomestig ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000, er mwyn gallu ymgymryd â'r ailbrisio angenrheidiol yn unol â Gorchymyn 2002.

(1)

1988 p.41. Diwygiwyd adran 143(2) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi a Deddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).

(2)

Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources