Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2003
Yn dod i rym
31 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (2)(b) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: —
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn Rheoliad 19(6) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(2)(ffitrwydd gweithwyr) yn lle'r geiriau “1 Ebrill 2003” rhodder y geiriau “31 Hydref 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (3).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae Rheoliad 19 o'r Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth a dogfennau penodol ar gael mewn perthynas â phobl sy'n gweithio mewn cartref gofal, gan gynnwys tystysgrifau cofnodion troseddol a ddyroddwyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997. O ran staff a gyflogir mewn cartref gofal yn union cyn 1 Ebrill 2002, nid yw'r gofyniad sy'n ymwneud â thystysgrifau cofnodion troseddol yn gymwys tan 1 Ebrill 2003. Mae rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r gofyniad hwn fel nad yw'n gymwys tan 31 Hydref 2004.
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol a ddiffinnir yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler adran 121(1) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254).