xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2003.
(3) Daw Rheoliadau 2, 3, 4, 8 a 9 i rym ar 6 Ebrill 2003.
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(1);
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
O.S. 1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2000/3119 (Cy.198), 2001/1362 (Cy.90), 2001/1423 (Cy.98) a 2002/186 (Cy.25) .
O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1988/486, 1989/395, a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693, 1999/2481 (Cy.21) a 2001/1362 (Cy.90).