Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 975 (Cy.134)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

1 Ebrill 2003

Yn dod i rym —

heblaw rheoliad 12

6 Ebrill 2003

rheoliad 12

7 Ebrill 2003

(1)

1977 p.49 (“Deddf 1977”); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) a'i diwygio gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).

Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Atodlen 4, paragraff 37(6) i Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).

Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990, am ddiffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).