Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym—
(a)heblaw rheoliad 12, ar 6 Ebrill 2003, a
(b)daw rheoliad 12 i rym ar 7 Ebrill 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988(1).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.