2003 Rhif 989 (Cy.138)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod I rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, ac wedi cyflawni'r ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelu Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod y gweithdrefnau ar faterion diogelu bwyd3, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: