- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol rhaid i'r Comisiwn asesu effeithiolrwydd trefniadau corff GIG dan sylw ac ystyried a yw'r trefniadau hynny'n ddigonol.
6.—(1) Ar ôl i adolygiad llywodraethu clinigol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i gorff GIG dan sylw.
(2) Ar ôl i adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad gwasanaeth gwladol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r personau neu'r cyrff a oedd yn destun yr adolygiad.
(3) Pan ddaw adolygiad gwasanaeth gwladol i ben rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) nodi —
(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn; a
(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.
7.—(1) Os daw mater i sylw y Comisiwn yng nghwrs adolygiad llywodraethu clinigol y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw—
(a)unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo; a
(b)y cyhoedd,
caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.
(2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) —
(a)y corff GIG sydd yn destun yr adolygiad;
(b)y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) —
(a)i'r corff GIG sydd yn destun yr adolygiad;
(b)i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)mewn achos lle mae paragraff (2)(c) yn gymwys, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;
(ch)i unrhyw gorff GIG neu ddarparydd gwasanaeth arall neu at unrhyw berson neu i unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid rhoi copi o'r adroddiad iddynt.
8.—(1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad cyffredinol y mae'r Comisiwn yn credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw—
(a)unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo; a
(b)y cyhoedd,
caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.
(2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) —
(a)person neu gorff sydd yn destun adolygiad;
(b)y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)mewn achos lle darparydd gwasanaeth yw testun yr adolygiad, y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
(3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) —
(a)at y person neu i'r corff sydd yn destun yr adolygiad ac y mae'r Comisiwn yn credu y dylid tynnu ei sylw at y mater;
(b)os mai'r person hwnnw neu'r corff hwnnw yw'r darparydd gwasanaeth, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;
(c)i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(ch)i unrhyw gorff GIG neu ddarparydd gwasanaeth arall neu at unrhyw berson neu i unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid rhoi copi o'r adroddiad iddynt.
9.—(1) Mae paragraffau (2) i (4) isod yn gymwys os yw corff GIG wedi bod yn destun adolygiad llywodraethu clinigol neu adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad cenedlaethol.
(2) Ar ôl i adolygiad ddod i ben, rhaid i'r corff GIG dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.
(3) Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (2) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdodau Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth GIG.
(4) Cyn penderfynu ynghylch cymeradwyo datganiad a baratoir o dan baragraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: