RHAN IVADOLYGIADAU
Effeithiolrwydd a digonolrwydd trefniadau5
Wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol rhaid i'r Comisiwn asesu effeithiolrwydd trefniadau corff GIG dan sylw ac ystyried a yw'r trefniadau hynny'n ddigonol.
Adroddiadau am adolygiadau6
1
Ar ôl i adolygiad llywodraethu clinigol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i gorff GIG dan sylw.
2
Ar ôl i adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad gwasanaeth gwladol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r personau neu'r cyrff a oedd yn destun yr adolygiad.
3
Pan ddaw adolygiad gwasanaeth gwladol i ben rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
4
Rhaid i'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) nodi —
a
canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn; a
b
unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.
Adroddiadau o Ddiddordeb Arbennig — Adolygiad llywodraethu clinigol7
1
Os daw mater i sylw y Comisiwn yng nghwrs adolygiad llywodraethu clinigol y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw—
a
unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo; a
b
y cyhoedd,
caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.
2
Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) —
a
y corff GIG sydd yn destun yr adolygiad;
b
y Cynulliad Cenedlaethol.
3
Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) —
a
i'r corff GIG sydd yn destun yr adolygiad;
b
i'r Cynulliad Cenedlaethol;
c
mewn achos lle mae paragraff (2)(c) yn gymwys, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;
ch
i unrhyw gorff GIG neu ddarparydd gwasanaeth arall neu at unrhyw berson neu i unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid rhoi copi o'r adroddiad iddynt.
Adroddiadau o ddiddordeb arbennig — adolygiad cyffredinol8
1
Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad cyffredinol y mae'r Comisiwn yn credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw—
a
unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo; a
b
y cyhoedd,
caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.
2
Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) —
a
person neu gorff sydd yn destun adolygiad;
b
y Cynulliad Cenedlaethol;
c
mewn achos lle darparydd gwasanaeth yw testun yr adolygiad, y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
3
Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) —
a
at y person neu i'r corff sydd yn destun yr adolygiad ac y mae'r Comisiwn yn credu y dylid tynnu ei sylw at y mater;
b
os mai'r person hwnnw neu'r corff hwnnw yw'r darparydd gwasanaeth, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;
c
i'r Cynulliad Cenedlaethol;
ch
i unrhyw gorff GIG neu ddarparydd gwasanaeth arall neu at unrhyw berson neu i unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid rhoi copi o'r adroddiad iddynt.
Camau pellach yn sgil adolygiad9
1
Mae paragraffau (2) i (4) isod yn gymwys os yw corff GIG wedi bod yn destun adolygiad llywodraethu clinigol neu adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad cenedlaethol.
2
Ar ôl i adolygiad ddod i ben, rhaid i'r corff GIG dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.
3
Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (2) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdodau Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth GIG.
4
Cyn penderfynu ynghylch cymeradwyo datganiad a baratoir o dan baragraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.