RHAN VIHAWLIAU MYNEDIAD A CHAEL GAFAEL AR WYBODAETH

Hawliau mynediad16

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau sydd ag awdurdod ysgrifenedig y Comisiwn, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn ac archwilio safleoedd perthnasol at ddibenion cynnal adolygiadau llywodraethu clinigol, adolygiadau cyffredinol neu ymchwiliadau.

2

Rhaid rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i bob person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) o awdurdod y person hwnnw ac, wrth wneud cais am fynediad i safle perthnasol at y dibenion a bennir ym mharagraff (1), bydd yn rhaid iddo, ar gais meddiannydd y safle neu berson sy'n gweithredu ar ei ran, ddangos y dystiolaeth honno.

3

Rhaid i berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) beidio â hawlio mynediad i safle perthnasol os nad yw'r person neu'r corff sy'n berchen ar y safle, neu sy'n ei reoli, wedi cael hysbysiad rhesymol o'r bwriad i geisio mynediad.

4

Ni chaiff neb a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw safle neu ran o safle a ddefnyddir yn llety preswyl i bersonau a gyflogir gan unrhyw berson neu gorff, heb yn gyntaf gael caniatâd y personau sy'n preswylio yn y llety hwnnw.

5

Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) i fynd i mewn i safle perthnasol o dan y rheoliad hwn, arolygu a chymryd copïau o unrhyw ddogfennau —

a

y mae'n ymddangos iddo fod eu hangen at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad dan sylw; a

b

sy'n cael eu cadw ar y safle —

i

gan y person neu'r corff sy'n berchen ar y safle neu yn ei reoli;

ii

gan gadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai y person neu'r corff hwnnw;

iii

gan unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y person neu'r corff hwnnw; neu

iv

gan aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor unrhyw gorff sy'n gysylltiedig.

Cael gwybodaeth ac esboniadau17

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo ddangos unrhyw ddogfennau neu wybodaeth y mae'n ymddangos i'r Comisiwn, neu i'r person a awdurdodir, fod eu hangen at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad dan sylw.

2

Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, roi i'r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, i'r person a awdurdodir, esboniad —

a

am unrhyw faterion sydd yn destun yr adolygiad neu'r ymchwiliad; neu

b

am unrhyw ddogfennau neu wybodaeth sy'n cael eu harolygu, eu copïo neu eu dangos o dan baragraff (1) neu reoliad 16(5).

3

Caiff y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae'n ofynnol iddo—

a

ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan baragraff (1); neu

b

roi esboniad o dan baragraff (2),

fod yn bresennol yng ngŵydd y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) er mwyn dangos y dogfennau neu'r wybodaeth neu er mwyn rhoi'r esboniad.

4

Ni chaiff y Comisiwn na pherson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn unol â pharagraff (3) heb roi i'r person hwnnw hysbysiad rhesymol o'r dyddiad y bwriedir gofyn iddo fod yn bresennol.

5

Dyma'r person y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) a (2)—

a

corff GIG;

b

cadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai corff GIG, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran corff o'r fath;

c

aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor corff GIG;

ch

darparydd gwasanaeth;

d

cyflogai darparydd gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran darparydd o'r fath;

dd

person sy'n darparu neu sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau o dan Ddeddf 1977, neu sy'n aelod neu'n gyflogai i berson neu gorff sy'n darparu neu sy'n helpu i ddarparu'r gwasanaethau hynny, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â chontract a wnaed â chorff GIG, darparydd gwasanaeth, neu berson y mae is-baragraff (e) yn gymwys iddo;

e

awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau neu berson a gyflogir gan awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau o dan Ddeddf 1977, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â threfniadau a wnaed yn rhinwedd adran 31(1) o'r Ddeddf.

Gwybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall18

1

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 16 a 17, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall.

2

Os yw'r Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan rheoliad 16(1) yn arfer —

a

yr hawl o dan reoliad 16(5) i archwilio a chymryd copïau o ddogfennau; neu

b

yr hawl o dan reoliad 17(1) i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddangos dogfennau,

ac os yw'r dogfennau hynny ar ffurf gwybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall, caiff y Comisiwn neu'r person a awdurdodir ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n rhedeg, neu sy'n ymwneud â gweithredu fel arall, gyfrifiadur neu ddyfais electronig arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, drefnu bod y wybodaeth honno ar gael, neu ddangos y wybodaeth honno, ar ffurf weladwy a darllenadwy.

Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth i'r Comisiwn19

1

Rhaid i'r Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) beidio ag archwilio na chymryd copïau o ddogfennau o dan reoliad 16(5) i'r graddau—

a

y mae'r dogfennau hynny yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol13 sy'n ymwneud â unigolyn byw, a'i enwi, os nad yw un neu ragor o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu

b

y mae archwilio neu gopïo'r dogfennau hynny yn golygu datgelu gwybodaeth os yw datgelu felly wedi ei wahardd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, os nad yw paragraff (4) yn gymwys.

2

Ni fydd yn ofynnol i neb ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan reoliad 17(1) na rhoi esboniad o dan reoliad 17(2) i'r graddau y mae dangos y dogfennau hynny neu'r wybodaeth honno neu roi'r esboniad hwnnw yn datgelu gwybodaeth—

a

sy'n gyfrinachol ac sy'n ymwneud ag unigolyn sy'n byw, a'i enwi, os nad yw un neu ragor o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys; neu

b

y gwaherddir datgelu gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, os nad yw paragraff (4) yn gymwys.

3

Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a) —

a

datgelir y wybodaeth ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolyn;

b

mae'r unigolyn yn caniatáu datgelu'r wybodaeth;

c

ni ellir cael hyd i'r unigolyn er gwaethaf cymryd pob cam rhesymol;

ch

mewn achos lle mae'r Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 20(1)(c), (d) neu (db) o'r Ddeddf14 neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau

i

nid yw'n ymarferol datgelu'r wybodaeth ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolyn ohoni;

ii

mae'r Comisiwn yn credu bod perygl difrifol i iechyd neu ddiogelwch cleifion yn deillio o'r materion sydd yn destun yr ymchwiliad; a

iii

wedi ystyried y perygl hwnnw ac a oes angen brys arfer y swyddogaethau hynny, mae'r Comisiwn yn credu y dylid datgelu'r wybodaeth heb ganiatâd yr unigolyn.

4

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os —

a

y gwaherddir datgelu'r wybodaeth oherwydd bod modd adnabod unigolyn o'r wybodaeth honno; a

b

yw'r wybodaeth dan sylw ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolion ohoni.

5

Mewn achos lle y gwaherddir datgelu gwybodaeth —

a

gan baragraff (1); neu

b

gan baragraff (2) ac mae'r gwaharddiad ar waith oherwydd bod modd adnabod unigolyn o'r wybodaeth,

caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n cadw'r wybodaeth ddarparu'r wybodaeth ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolyn ohoni, er mwyn galluogi datgelu'r wybodaeth.