20. Ni chaiff y Comisiwn gynorthwyo'r Comisiwn Archwilio o dan adran 21(2) o'r Ddeddf heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.
21.—(1) Ni chaiff y Comisiwn arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 2(1)(f) o'r Rheoliadau Swyddogaethau mewn perthynas ag ymchwiliad penodol neu ymchwiliad arfaethedig heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 2(1)(f) rhaid i'r Comisiwn gymryd i ystyriaeth unrhyw gyngor neu ganllawiau sy'n ymwneud ag ymholiadau'r gwasanaeth iechyd a roddir i gyrff GIG gan y Cynulliad.
22. Diddymir Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2000(1).