6.—(1) Ar ôl i adolygiad llywodraethu clinigol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i gorff GIG dan sylw.
(2) Ar ôl i adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad gwasanaeth gwladol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r personau neu'r cyrff a oedd yn destun yr adolygiad.
(3) Pan ddaw adolygiad gwasanaeth gwladol i ben rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) nodi —
(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn; a
(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.