RHAN 2DIWYGIO RHEOLIADAU'R GWASANAETH IECHYD GWLADOL (FFIOEDD AM GYFFURIAU A CHYFARPAR) (CYMRU) 2001
Diwygio rheoliad 2
7. Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle'r diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn” rhowch y diffiniad canlynol—
“ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG a'i dyroddi gan feddyg, deintydd, rhagnodydd atodol neu neu nyrs annibynnol sy'n rhagnodi i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac—
mae'n cynnwys ffurflen bresgripsiwn sy'n cael ei darparu a'i dyroddi o dan drefniadau cyfatebol sy'n cael effaith yn Lloegr, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon; a
nid yw'n cynnwys presgripsiwn amlroddadwy;”, a
(ii)ar ôl y diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn” mewnosodwch y diffiniad canlynol—
“ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol sy'n cynnwys darparu cyffuriau neu gyfarpar gan fferyllydd yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;
ar ôl y diffiniad o “nyrs sy'n rhagnodi” mewnosodwch y diffiniadau canlynol—
“ystyr “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”) yw presgripsiwn sydd wedi'i gynnwys mewn ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a'i dyroddi gan ragnodydd, i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac sydd yn y fformat a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, ac sydd—
yn cael ei gynhyrchu gan gyfrifiadur ond yn cael ei lofnodi gan ragnodydd; a
yn dangos y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebwyd ar y ffurflen honno fwy nag unwaith, ac yn pennu'r nifer o weithiau y caniateir eu darparu;”;
ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw—
meddyg,
nyrs annibynnol sy'n rhagnodi, ac
rhagnodydd atodol;”
ar ôl y diffiniad o “rhestr feddygol”, mewnosodwch y diffiniad canlynol—
“ystyr “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a'i dyroddi gan ragnodydd yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, ac sydd yn y fformat a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(1), ac sydd—
yn cael ei gynhyrchu gan gyfrifiadur ac nad yw'n cael ei lofnodi gan ragnodydd;
yn ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy penodol ac yn cynnwys yr un dyddiad â'r presgripsiwn hwnnw;
yn ffurfio rhan o ddilyniant o swp-ddyroddiadau, lle mae'r nifer o swp-ddyroddiadau, yn gyfartal â nifer yr adegau y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebwyd ar y presgripsiwn amlroddadwy; ac
yn pennu Rhif i ddynodi ei le yn y dilyniant y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c);” a
ym mharagraff (3), ar ôl “un ffurflen bresgripsiwn” mewnosodwch “, neu ar un presgripsiwn amlroddadwy (ond dim ond pan fo'r cyflenwad gyferbyn ag un swp-ddyroddiad sy'n ymwneud â'r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw)”.
Diwygio rheoliad 3
8.—(1) Diwygir rheoliad 3 (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3),” rhowch “Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1A) ac yn ddarostyngedig i baragraff (3),”.
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosodwch—
“(1A) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu i glaf, godi ar y claf hwnnw a chasglu ohono, ar gyfer pob aml-ddyroddiad—
(a)ffi o £6.00 am eitem hosan elastig, hynny yw, ffi o £12.00 y pâr;
(b)ffi o £6.00 am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur.
(1B) Os yw ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1A), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad fod y ffi berthnasol wedi'i thalu.”.
(4) Yn lle paragraph (3) rhowch—
“(3) Rhaid peidio â chodi na chasglu unrhyw ffi o dan baragraff (1) neu (1A) —
(a)os oes esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i gael esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran—
(i)mewn achosion sy'n dod o dan baragraff (1A), ar y swp-ddyroddiad adeg cyflenwi'r cyffur neu'r cyfarpar,
(ii)ym mhob achos arall, ar y ffurflen bresgripsiwn;
(b)os oes hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a bod datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran—
(i)mewn achosion sy'n dod o dan baragraff (1A), ar y swp-ddyroddiad adeg cyflenwi'r cyffur neu'r cyfarpar,
(ii)ym mhob achos arall, ar y ffurflen bresgripsiwn; neu
(c)os yw'r claf yn preswylio mewn ysgol y mae ei henw wedi'i mewnosod neu neu sefydliad y mae ei enw wedi'i fewnosod ar y ffurflen bresgripsiwn gan feddyg yn unol â pharagraff 44 o Atodlen 6 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004.
(5) Ym mharagraff (5)—
(a)ar ôl “ffurflen bresgripsiwn” mewnosodwch “neu bresgripsiwn amlroddadwy”; a
(b)ar ôl “baragraff (1)” mewnosodwch “neu baragraff (1A)”.
(6) Ym mharagraff (6)—
(a)ar ôl “paragraff (1)” mewnosodwch “neu baragraff (1A)” ; a
(b)yn y testun Saesneg, hepgorwch “[dmb1/”.